Kymro yn danvon Annerch at y darlheawdyr.
YR awr nad oes dim hoffach gán ras yn brenhin vrðassol ni. No gwelet bot geirieu duw ae evengil yn kerðet yn gyffredinol ymysk y bobyl ef, y peth y ðengys y vot ef yn dywyssoc mor dwyvawl ac y mae kadarn. A phan roes eiswys gymmaint o ðonieu pressennol y genedyl kymry. Ny byð lhesgach y gennadhau yðyn ðonyeu ysprydawl.
Am hynny gweðys yw rhoi yngymraec beth or yscrythur lan, o herwyð bod lhawer o gymry a vedair darlhein kymraeg, heb vedru darlhein vn gair saesnec na lhadin, ag yn enwedic y pynckeu y sy anghenrheydiol y bob rhyw gristion y gwybot dan berigyl y enaid, sef yw hynny: pynckeu yr ffydd gatholic, ar weddi a ðysgoeð duw yni, a elwir y pader, ar deng air deðyf, ar gwydyeu gochladwy ar kampeu arveradwy.
Ac er bod y rhain gyda lhawer o betheu da erailh yn yskrivennedic mewn bagad o hen lyfreu kymraeg, etto nyd ydy yr lhyyfreu hynny yn gyffre din ol ymysk y bobyl. Ac yr awr y Rhoes duw y prynt yn mysk ni er amylhau gwybodaeth y eireu bēdigedic ef, iawn yni, val ygwnaeth holh gristi onogaeth heb law, gymryt rhann or daeoni hwnnw gyda yn hwy, val na bai ðiffrwyth rhoð kystal a hon yni mwy noc y erailh, ac er ym ðymyno gwybod o bob vn om kiwdawdwyr i yr kymry sa esneg ney ladin, lhe traethir or petheu hyn yn berffeithach, etto am na elhir hynuy hyd pan welo duw yn ða a wahanoeðieythoð y byd er yn kospe-