yn ðiffrwyð dryssoch, ac yn lhekwvyl o dal am yn rhavael y kymmeraf inney, os chwi a gymmer ffrwyth o hynn. drwy ðuw ae rad heb yr hwn ny cheffir dim ac y vo da. yrr hwnn y bo gogonyant tragwyðawl, poet gwir.
Rheol y aðnabod y Gwyðor issod.
Am newidiaw o honaf beth o hen ortograff kymraeg yn amgenach noc y by arveredic escrivenny kynn hynn nyd heb achos kywrain, mi a ðodeis gwyðor or lhythyreu islaw, ac ywch benn pob vn air y ðangos nerth pob lhythyrenn. A gwybyð pa rym y mae pob rhiwlythyren yny ðwyn yn y gair ywch bēn gogyvair arlhythyren y vynnych, yr vn rym y ðyg yn wastat, ac onyd kofio hynny yn ða, hawð ytt ðyscu darlhein y lhyvyr hwnn er na ðyskysid di ðarlhein dimm kymraec er roed or blaen, o medryd ðarlhein vn iaith aralh heb law