Tudalen:Yny lhyvyr hwnn.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lhe. rr. o achaws y vai hawð y ðangos y vot yn gywreinach, ac yn nes y athrawaeth lhadin a groec no dyblu yr lhythyreu hynny, onyd nad rhaid hyn­ny ynawr rac rhwystro y peth eu y sy reitach.

Gwybyð hevyd vod ackan lem ar bob stlhaf ðiwetha onyd vn, o bob gair lhyaws silhavoc: val yny geireu hynn lhythyr, lhythyren, lhythyrenney.

q. ac. x. nyd rhaid wrthyn ynghymraec ony ðiskyn gair lhadin.

KYwreinach oeð Lythyreu Groec no Lhadin y ni pai gelhid torri yr hen ðevot. Ac etto or kyntaf olh y gwelir ymi arveru or Brython hynaf lythyreu groec. Kanys Plini yn y lyuyr o ystoria nattur a ðyweid, vod yn y amser ef ym prydai wyr a elwid yn lhadin Druydes yn wyr o ðysc mawr mewn kelvyðyd a elwir yn lhadin, Magia, sef oeð honno kelvyðyd y adnabot rheol y ser ar seignyeu a nattur pob poth dayarol. Ac y dyweit Iwl Ke­sar mae oðy ymma y dathoeð y geluyðyd hynny y ffraink a bod y gwyr dysgedic o honi yn eskriven­nu eu kelvyðod eu a lhythyreu groec yn y amser ef: Etwo am vod ieythoeð holh Ewropa yn arver o lhythyreu Lhadin yr awr honn, a phe newidiyd hwy y nawr, ve golhid yr hen lyfreu, goreu yw kadw yr lhythyreu arveredic gan welhau pob y­chydic y petheu y vo beiys.