BLwyðyn yr haul y syd drichant a thrigain a phymp diwarnod a whech awr, a deuðeg wythnos a deugain tac vn diwarnod, ac yn hynny o amser y mae yr haul yn kerðed dros y deudeg arwyð or zodiak.
Y vlwyðyn bisext y ðiskyn vnwaith, bob pedair blyneð o achaws y whechawr y sy dros benn yr haul yr hwnn a wna vn diwarnot rhagor mewn pedair blyneð. lhythyren y sul y newidia bob blwyðyn o achos y dyð dros benn y sy yny vlwyðyn a hi newidia dwywaith mewn blwyðyn bissext.
Blwyðyn y lheyad y sy o. xxvii. nywarnod ac. viii. awr.
Eythyr rhwng pob lheyad newyð ay gylyð y mae naw niwarnod ar ugaint a hanner diwarnod. kanys o gyfnewid yr haul ar lheyad yny gywhyrðon ailwaith, ve ðervyð yr haul gerðed ðros vn or deuðeg arwyðon agos, or maun lhe y ymmadawsei ar lheyað, ac ym penn deu ðiwarnod a hanner y gorðiweda yr lheyad yr haul, ac yno y byð kyfnewid y lheyad.
Ac y kerða yr lheuad thwng pob kyfnewid ae gylið dros holh arwyðon y zodiak, sef yw hynny kymaint ac a gerðo yr haul yn y vlwyðyn.
Rhif y prif a elwir hevyd y rhif auraid. y ðychymmygoð Iwl kesar gyntaf ac ae kaskloeð or dyðieu ar orieu aghyniver o bob kyfnewid, er gwybot y dyð y kyfnewidio yr lheyad yndaw, heb Almanak yn y byd, onyd kalandyr y bo y rhif hynny yndaw, ac ef a bara y rhif hwnnw o vn hyd bedwararbymtheg, kyn dyvod yðy gwrs ellwaith