Tudalen:Yny lhyvyr hwnn.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn yr un flwyddyn, sef: "The Baterie of the Popes Botereulx, commonlye called the high Altare." Yn ail, bu Roberte Crowley, argraffydd y llyfr hwn yn argraffu llyfrau dros Salesbury tua'r un adeg. Efe argraffodd y " Baterie" yn 1550, y "Briefe and playne Introduction, teachyng how to pronounce the letters in the British tong," yn 1550, a'r "Kynniver Llith a Ban " yn 1551. Ceir y darnau a godir o gyfraith Hywel Dda ar dud. 340-2 a 444 o'r gyfrol gyntaf o argraffiad Aneurin Owen. Bu copïau o'r llyfr ym meddiant y Doctor Silvan Evans, ym meddiant Mr. Breeze, Porthmadog, ac ym meddiant yr Iarll Macclesfield. Y mae copi Mr. Breeze yn awr yn yr Amgueddfa Brydeinig, a chopi yr Iarll Macclesfield yn llyfrgell Syr John Williams, Barwnig.