Tudalen:Yny lhyvyr hwnn.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heb law bod yn rhydd er oed hyd heddiw wrth gyfreth ddeo / ac weithie wrth anwadal gyfreith y Pap / a bod rhydd ac yn gyfreithlawn yr owrhon wrth gyfreith y Brenhyn / Lhyma heued Text o Grifreith howel da: wrth yr hwn y gellir dyall bod yr offeireit yr amser hynny yn priodi gwrageð / ac nad oeð waherddedic wrth y dywededic gyfreith / yr hon oeð wedy i chonffyrmio ae derbin yn gymradwy / yn ðedðfol ac yn divei / trwy auturtot yr escop oeð yr amser hynny yn Ruue­in: megis y kewch weled yn eglurach wrth darllein y text o isot.


"Hwn ywr deunow­uet hyna­if
ir b. Ed­ward y chwechet

Lyma lyuyr kyfreith a wnaeth hywel da yn y ty gwyn ar daf / kyn bot heuit petheu erill yn daw o gyfreithieu da a wnayth doethion / a chyn no hynny a gwedy hynny.

Gwilia yr hen or­graph Cambereic.

A hyn a wnaythpwyt yn erbin kyfreith hywel / Ky­freith hywel a deleir i chredu. A chyt del yno o wys Hy­wel / chwegwer doethaf o Gymryf / o bob kymwt yng kymry o leygyon / a saith vgeint bacloc o Esgyb / ac ar­chescyb / ac athraon da / ac Abadau. Or doethion hyn­ny oll / kymryt a wnaythpuyt y deuddec doethaf ar neilltu y wneuthur y Kyfreith. Ac vn yscolhayl huotlaf o Gymryf olh y yscriuenny y kyfreith. Ac edrych rac gw­neuthur yn erbyn kyfreith eccleis na chifraith yr ame­rawdyr. A llymma henweu y gwyr hynny oll / nyd am­gen.

Morgeneu enat
Kyfnerth y vap.
Gweir vap Rufawn.
Gronwy vap Moridic.
Retwyd enat.