Prawfddarllenwyd y dudalen hon
CCLVIII. DWY WYDD RADLON.[1]
DWY ŵydd radlon,
Yn pori'n nglan yr afon,
Yn rhadloned a'r rhadlonaf ŵydd,
Dwy ŵydd radlon.
CCLIX. IAR DDA.
'ROEDD gen i iar yn gori
Ar ben y Frenni Fawr;
A deg o wyau dani,—
Daeth un ar ddeg i lawr.
CCLX. PLE'R A'R ADAR.
B'LE ti'n mynd, b'le ti'n mynd,
Yr hen dderyn bach?
I sythu cyn bo ti'n marw?
Pwy mor uchel wyt ti'n byw,
Gael dweyd wrth Ddafydd Huw?
O, trueni am yr hen dderyn bach.
- ↑ I brofi y medrai’r plentyn ddweyd y seiniau anhawddaf yn groew.