Tudalen:Yr Hwiangerddi (O M Edwards).pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CCLXI. WEL, WEL.

MI weles ferch yn godro,
A menyg am ei dwylo,
Yn sychu'r llaeth yng nghwrr ei chrys,
A merch Dai Rhys oedd honno.

CCLXII. TEIMLAD DA.

MAE'N dda gen i ddefaid, mae'n dda gen i ŵyn,
Mae'n dda gen i feinwen a phant yn ei thrwyn;
A thipyn bach bach o ol y frech wen,
Yn gwisgo het befar ar ochr ei phen.


CCLXIII. DAU GANU.

MAE gen i ganu byrr bach,—
Ffiol a llwy, a sucan a llaeth;
Mae gen i ganu byrr bach sy hwy,—
Ffiol a llaeth, a sucan a llwy.


CCLXIV. TARW CORNIOG.

TARW corniog, torri cyrnau,
Heglau baglog, higlau byglau;
Higlau byglau, heglau baglog,
Torri cyrnau tarw corniog.


CCLXV. PE TASAI.

PE tasai'r Wyddfa i gyd yn gaws,
Fe fuasai'n haws cael enllyn;
A Moel Eiddia'n fara gwyn,
A'r llyn yn hufen melyn.