Tudalen:Yr Hwiangerddi (O M Edwards).pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CCLXXI. LLIFIO.

LLIFIO â llif,
Am geiniog y dydd;
Llifio pren bedw,
Yng nghoed yr hen widw;
Bocs i John, a bocs i finne,
Bocs i bawb drwy'r tŷ 's bydd eise.

CCLXXII. AR OL Y LLYGOD.[1]

WIL ffril ffralog
A'i gledde tair ceiniog,
Yn erlid y llygod trwy'r llydi;
Aeth y llygod i'r dowlad,
Aeth Wil i 'mofyn lletwad;
Aeth llygod i'r ddol.
Aeth Wil ar eu hol,
Aeth y llygod i foddi,
Aeth Wil i gysgu.


CCLXXIII. ELRINEN.

HEN wraig bach, den, den,
Pais ddu, a het wen,
Calon garreg, a choes bren.


  1. Cefais hwn, ac amryw o hwiangerddi Dyfed welir trwy'r llyfr, gan gyfieithydd (Daniel Rees 1855-1931) Dwyfol Gân Dante i'r Gymraeg.