Prawfddarllenwyd y dudalen hon
XLIX. YSTURMANT[1]
(I ddynwared swn ysturmant.)
DWR glân gloew,
Bara chaws a chwrw.
L. YSGUTHAN.[2]
(I ddynwared Cân Ysguthan.)
Cyrch du, du,
Yn 'y nghwd i.
LI. SIAN.
SIAN bach anwyl,
Sian bach i;
Fi pia Sian,
A Sian pia fi.
LII. SIAN A SION.
PAN brioda Sion a minnau,
Fe fydd cyrn ar bennau'r gwyddau;
leir y mynydd yn bluf gwynion ;
Ceiliog twrci fydd y person.
LIII. SION A SIAN.
SION a Sian yn mynd i'r farchnad,
Sian yn mynd i brynnu iar,
A Sion i werthu dafad.
- ↑ Mae'n gofyn medr i wneyd y swn priodol. Medd golygydd Llyfr Coch Hergest, gan yr hwn y cefais hwy, y medr hwn.
- ↑ Mae'n gofyn medr i wneyd y swn priodol. Medd golygydd Llyfr Coch Hergest, gan yr hwn y cefais hwy, y medr hwn.