Tudalen:Yr Hwiangerddi (O M Edwards).pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CXX. SEN I'R GWAS.

Y llepyn llo a'r gwyneb llwyd,
Ti fyti fwyd o'r gore;
Pe torrit gwys fel torri gaws,
Fe fyddai'n haws dy ddiodde.

CXXI. PRUN?

Dic Golt a gysgodd yn y cart,
Fe'i speiliwyd o'i geffyle;
A phan ddihunodd, holi wnai,–
"Ai Dic wyf fi, ai nage?
Os Dic wyf fi, ces golled flin,–
Mi gollais fy ngheffyle;
Ac os nad Dic, 'rwy'n fachgen smart,
Enillais gart yn rhywle."


CXXII. DAMWAIN.

Shigwti wen Shon-Gati,
Mae crys y gŵr heb olchi,
Fe aeth yr olchbren gyda'r nant,
A'r wraig a'r plant yn gwaeddi.


CXXIII. COED TAN.

Gwern a helyg
Hyd Nadolig.
Bedw, os cair,
Hyd Wyl Fair;
Cringoed caeau
O hynny hyd Glamai;
Briwydd y frân
O hynny ymlaen.