Tudalen:Yr Hwiangerddi (O M Edwards).pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CLXVII. CARIAD ARALL.

MAE'N dda gen i fuwch,
Mae'n dda gen i oen,
Mae'n dda gen i geffyl
Yn llydan ei ffroen;
Mae'n dda gen i'r adar
Sy'n canu yn y llwyn.
Mae'n dda gen i fachgen
A chrwb ar ei drwyn;
A thipyn bach bach o ol y frech wen,
Yn gwisgo het befer ar ochor ei ben.

CLXVIII. GWRAIG.

MI fynnaf wraig, mi wranta,
Caiff godi'r bore'n nghynta; T
roed yn ol a throed ymlaen,
A throed i gicio'r pentan.


CLXIX. , CLXX. PRY BACH, [1]

PRY bach yn mynd i'r coed,
Dan droi 'i ferrau, dan droi 'i droed;
Dwad adre yn y bore,
Wedi colli un o'i sgidie.

Pry bach yn edrych am dwll,
Yn edrych am dwll, yn edrych am dwll,
Pry bach yn edrych am dwll,
A dyma dwll, dwll, dwll, dwll, dwll.


  1. Dywedir y rhain wrth gerdded un neu ddau fys ("Dau bry bach") fyny corff y plentyn. Gorffennir dan ei oglais dan ei ên.