Tudalen:Yr Hwiangerddi (O M Edwards).pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CCXXX. COED Y PLWY.

HELYG a bedw, gwern a derw,
Cyll, a mall, a bocs, ac yw;
A choed shirins[1] a gwsberins,[2]
A chelynen werddlas wiw.

CCXXXI. HEN WRAIG SIARADUS.

HEN wraig o ymyl Rhuthyn,
Aeth i'r afon i olchi pwdin;
Tra bu'n siarad â'i chymdogion,
Aeth y pwdin efo'r afon,
Ar ol y cwd.


CCXXXII. MOCHYN BACH.

JIM Cro crystyn,
Wan, tw, and ffôr;
Mochyn bach yn eistedd
Yn ddel ar y stol.


CCXXXIII. RHYFEDD IAWN.

AETH hen wraig i'r dre i brynnu pen tarw,
Pan ddaeth hi'n ol 'roedd y plant wedi marw;
Aeth i'r llofft i ganu'r gloch,
Cwympodd lawr i stwnd y moch.


  1. Cherries, ceirios.
  2. Gooseberries, eirin Mair.