Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yr Hwiangerddi (O M Edwards).pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CCXLIV. CCXLV. BUM YN BYW.

BUM yn byw yn gynnil, gynnil,
Aeth un ddafad imi'n ddwyfil;
Bum yn byw yn afrad, afrad,
Aeth y ddwyfil yn un ddafad.

Bum yn byw yn afrad, afrad,
Aeth y ddwyfil yn un ddafad;
Bum yn byw yn gynnil, gynnil,
Aeth un ddafad imi'n ddwyfil.

CCXLVI. PEN Y MYNYDD DU.

PLE mae mam-gu?
"Ar ben y Mynydd Du."
Pwy sydd gyda hi?
"Oen gwyn a myharen ddu.
Fe aeth i lan dros yr Heol Gan,
Fe ddaw i lawr dros yr Heol Fawr."


CCXLVII. GWAITH TRI

'ROEDD Sion, a Sian, a Siencyn,
Yn byw yn sir y Fflint;
Aeth Sion i hela'r cadno,
A Sian i hela'r gwynt;
A Siencyn fu
Yn cadw'r ty.