Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YR HYNOD

WILLIAM ELLIS, MAENTWROG.

PEN. I.

William Ellis a'i Gartref.

Y mae bellach bedair-blynedd-ar-bymtheg lawn er pan hunodd yr hen bererin o Maentwrog; a phe gofynai rhywun, Paham yr aflonyddir ar ei gofíadwriaeth yn mhen cymaint o flynyddoedd, ac na chai lonydd i gysgu ei hûn drosodd yn dawel, fel ag y gadewir i bawb eraill o'r meirw? Ein hateb i'r cyfryw ymofyniad fyddai, "Am fod coffadwriaeth y cyfìawn yn fendigedig," tra y mae "enw y drygionus yn pydru." Y mae pedair-blynedd- ar-bymtheg yn fwy na digon o amser i bydru enw y drygionus: "Coffadwriaeth y drygionus a gollir oddiar wyneb y ddaear, ac ni bydd enw iddo ar wyneb yr heol. Felly mi a welais gladdu y rhai annuwiol, a hwy a ebargofiwyd yn y ddinas lle y gwnaethent hyn." Buont yn y ddinas am lawer o flynyddoedd, a'u crechwen ffol yn tori ar dawelwch y dinasyddion: ond y peth cyntaf a wnaed ar ol cael eu claddu oedd eu llwyr anghofio; "Hwy a ebargofìwyd yn y ddinas lle y gwnaethent hyn." Pe digwyddai rhywun, megis yn ddamweiniol, gyffwrdd