Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn oleuach, oleuach, hyd ganol dydd. Un o'r troion diweddaf y gwelsom ni ef adroddodd wrthym pa fodd y cawsai ddiangfa. Arweiniwyd i'r ymddiddan trwy iddo ddyweyd:—

"Oni fydd yn beth mawr iawn os cawn ni fyn'd i ryw gŵr o'r nefoedd; mi fum i yn go falch er's talwm; nid oeddwn am fyn'd i'r nefoedd o gwbl, os na chawn fyn'd yn o bell iddi : ond ar ol i mi fod yn uffern y tro diweddaf yma, yr wyf yn bur barod i gymeryd rhy w gongl fach yn rhywle ynddi; cil y drws, neu rywle, am y caf fod i mewn."

"Yn uffern, WILLIAM ELLIS," gofynem ninnau," a fuoch chwi yno?"

"Do, lawer gwaith," ebe yntau, gan ychwanegu," cefais fy nghadw am dri mis y tro diweddaf y bum yno."

"Wel, dear me" ebe ninnau," yr oeddym yn meddwl na fyddai i neb a elai i'r lle poenus hwnw, ddyfod byth allan o hono. Sut y cawsoch chwi dd'od oddiyno? "

"Fel hyn y bu," ebe yntau : "fel yr oeddwn un prydnawn yn dyrnu mewn ysgubor, dechreuais feddwl pa fath le oedd uffern, a phan oeddwn yn meddwl dychymygais fy mod yn clywed llais yn dywedyd, ' Ni waeth i ti heb fyned i'r drafferth i geisio dychymygu pa fath le ydyw, ti fyddi yno yn fuan.' Nis gallwn yn fy myw ddyrnu dim, yr oeddwn yn teimlo fy holl aelodau yn diffrwytho, a chefais fy hunan ar lawr yn y gwellt. Cyn hir, meddyliais fy mod yn clywed rhywun arall yn dywedyd, fel yn mhen yr ysgubor, ' Nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi.' Rhoddodd hyn nerth yn fy holl aelodau, ac yn fuan yr oeddwn ar fy nhraed yn dyrnu drachefn a'm holl egni. Yn mhen ychydig meddyliais fy mod yn clywed llais arall yn dywedyd, ' Myfi yr Arglwydd, ni'm newidir, am hyny