Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llawer drosti. Fel yr oedd yn gweddïo un boreu, deallodd rywfodd ei fod yn cael ei wrando. Cyfrwyodd ei farch, ac aeth yr holl ffordd i edrych pa fodd yr oedd pethau yn bod yn y Glyn, canys dyna oedd enw y ffermdy lle yr oedd y claf yn cartrefu. Wedi cyrhaedd y tŷ gofynai i'r ferch,—"Sut mae dy fam heddyw, a ydyw ei meddwl wedi sirioli ychydig?" "Lled debyg ydyw fy mam," ebe y ferch yn ol," nid ydym yn gwybod fod dim cyfnewidiad er gwell arni." "Wel," ebe yntau," y mae gwawr yn sicr o dori ar ei meddwl yn fuan, yr wyf wedi deall hyny wrth weddïo drosti boreu heddyw, ac yr wyf wedi dyfod yma i'ch hysbysu o hyny." Ac felly fu, gwawriodd ar ei meddwl, ac yn ngoleuni y wawr hono hi a groesodd yr afon.

Yr oedd ei grefydd yn dyfod i'r golwg yn y parch mawr oedd ganddo i'r Beibl. Byddai yn cario Beibl i'w ganlyn bron bob amser. Digwyddodd iddo un diwmod pan yn cario mawn o'r mynydd, adael y Beibl yn y fawnog ar ei ol. Pan y daeth adeg y ddyledswydd, fe gofiodd am dano, a dywedai wrth y teulu fod yn rhaid iddo bicio i'r mynydd, ei fod wedi gadael ei Feibl ar ei ol yno. Ceisiwyd ei berewsdio i beidio, gan ei bod yn hwyr iawn, a'r ffordd yn mhell ac anhygyrch. Ond nis gallai feddwl am i'r Beibl fod allan trwy y nos. Yr oedd yn ddarllenwr mawr ar ei Feibl, a charai yn fawr glywed eraill yn ei ddarllen. Galwodd cyfaill ieuangc gydag ef unwaith, ac er mai canol dydd ydoedd, bu yn rhaid iddo ddarllen pennod a gweddïo gydag ef a'i chwiorydd. Wrth hebrwng y cyfaill i ffordd dywedai," yr oeddit yn darllen y bennod yn glaear iawn heddyw. Meddwl am ddarllen pob gair o'r Beibl nes gwneyd i'r gwrandawyr deimlo na byddent wedi clywed gair o'r bennod erioed o'r blaen." Felly y byddai efe yn darllen bob amser.