Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AT Y DARLLENYDD.

Nid wyf yn gwybod fod dim wedi ymddangos am yr hynod William Ellis ond a roddwyd gan y diweddar Barch. E. Morgan, Dyffryn, yn y Methodist, a hyny yn fuan ar ol ei farwolaeth. Bu genym law mewn cynnorthwyo i gasglu yr adgofion hyny: ond daethom i ddeall yn fuan i ni fod yn rhy frysiog, a thrwy hyny adael llawer o dwysenau llawnion ar ol. Er fod blynyddoedd lawer wedi myned heibio er pan y bu farw William Ellis, yr ydym yn parhau i glywed rhyw hanesion newyddion am dano ; a pharodd hyn i ni ystyried, ai nid gwell oedd cymeryd hamdden i ail loffa yn y meusydd lle y bu ef yn bwrw ei gryman ynddynt ? ac wedi i ni fyned a lloffa, a dyrnu yr hyn a loffasom, yr ydym yn tybied y gallwn ddyweyd fod genym ephah, nid o haidd, ond o wenith cartref pur, ac y mae yn dda genym gael ei gyflwyno, yn y llyfryn bychan hwn, yn ddefnydd bara iach i ti ddarllenydd.

Yr oedd amryw o ddiaconiad eraill yn gymdogion i William Ellis, yr ydym yn teimlo parch dwfn i’w coffadwriaeth ; a hyny ar gyfrif eu gwasanaeth i