Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ni byddaf fi yn ymyraeth fawr â'r Cyfiawnhad yna, Dafydd bach," meddai yntau; "cawn i fy sancteiddio rywsut, mi fyddwn i yn foddlawn wed'yn."

"Yr ydych yn meddwl mai Cyfiawnhad ydyw y cyntaf o ran trefn, onid ydych WILLIAM ELLIS?" gofynai y progethwr drachefn.

"Ni wn i ddim, Dafydd bach," ebo yntau, "pa un yw y cyntaf, mae nhw rhywsut ar draws eu gilydd yn eu lle mi wa ganddo Ef: ond Sancteiddhad ydyw'r cyntaf gen i." Dyma brofiad pur uchel, onide? pechadur wedi ymgolli yn yr awydd am fod yn lân.

Yr oedd yr un rhagoriaethau yn dyfod i'r golwg yn ei ymddiddanion personol gyda'i gyfeillion. Byddai bob amser yn siriol, a theimlai pawb yn falch o'r cyfleusdra i fod yn ei gwmni; ymollyngai yn rhydd, ac weithiau parai lawer o ddifyrwch. Gofynai i un o fyfyrwyr y Bala unwaith, a wnai efe fyned a rhyw farwnad oedd ganddo i Mr. Edwards, i'w rhoddi yn y Geiniogwerth Cymerodd y myfyriwr hi o'i law, ac agorodd hi; ac erbyn ei hagor, canfyddai fod twll wedi ei losgi trwy ei chanol. Pan welodd y llun oedd arni, dywedai,— "Beth dal i mi fyn'd a hon iddo, a welwch chwi y tyllau yma, WILLIAM ELLIS?"

"Dos di a hi," ebe yntau, "mi wyr Mr. Edwards o'r goreu beth sydd i fod yn y tyllau yna i gyd."

Yr oedd dau weinidog poblogaidd yn digwydd bod yn Maentwrog yr un adeg, ac yr oedd yno faban i'w fedyddio; ac o barch i'w gilydd, dadleuai y naill dros i'r llall weinyddu yr ordinhad. Wrth eu gweled yn ymgyndynu. tynodd WILLIAM ELLIS geiniog allan, a thaflodd hi i fyny gan ddywoyd, "Mi dosiwn ni." Aeth y ddau ŵr parchedig i'r capel wedi eu cywilyddio i fesur gan y dull