Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei hynawsedd a'i ddiniweidrwydd, trwy geisio ganddo wneyd yr hyn nas mynai. Anfonodd ei feistr tir ato unwaith i ofyn a wnai efo beidio myn'd o'i dŷ ar brydnawn Sabbath, am fod arno eisiau iddo fyned gyda dieithriaid o Loogr i ddangos iddynt y rhaiadr oedd heb fod yn mhell oddiyno. Achosodd y cais annuwiol hwn bryder nid bychan iddo; ni fynai ar un llaw ddigio y boneddwr oedd mor garedig iddo bob amser, ac ar y llaw arall arswydai rhag y fath waith ar ddydd yr Arglwydd. Ymneillduodd i ofyn cyfarwyddyd ei Dad nefol; ac yn fuan wedi iddo ddechreu gweddïo, clywai un o'r ddwy chwaer yn gwaeddi,—

"Wil, p'le 'r wyt ti, tyr'd yma yn y munud, mae yma rhyw rai dy eisiau."

Cododd WILLIAM ELLIS oddiar ei liniau, ac aeth at y tŷ, a phwy oedd yno ond y boneddwyr yn aros am dano. Aeth gyda hwy, ac arweiniodd un o honynt at y llyngelyn. Sylwai y boneddwr fod yr olygfa yn frawychus, a bod y llyn yn ddwfn, a golwg ferwedig arno.

"Ydyw, Syr," obe yntau, "ond llyn o ddwfr lled ddiniwed ydyw hwn; llyn o dân fel hyn fydd yn ofnadwy i fod ynddo."

"Ië," atebai y boneddwr yn lled sarug.

"Wal, Syr," meddai WILLIAM ELLIS, a'i lygaid yn tanio gan eiddigodd dros sancteiddrwydd y Sabbath, "i lyn o dan a brwmstan berwedig y mae holl halogwyr Sabbathau Duw i gael eu bwrw i ferwi am dragwyddoldeb."

Brawychodd y bonoddwr yn ddirfawr, a dywedai wrth WILLIAM ELLIS y gallai fynod yn ol ei hunan. Felly gollyngwyd WILLIAM ELLIS yn rhydd, a chyfeiriodd ei gamrau at gapel uchaf Maentwrog, gan werthfawrogi y