Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei feddwl, "Pan y'ch erlidiant mewn un ddinas, ffowch i un arall." Ond ni fynai WILLIAM ELLIS roddi wyneb i beth fel hyn un amser. Dywedai wrth wraig oedd yn gofyn am aelodaeth eglwysig gyda hwy yn y capel uchaf, Maentwrog, yr hon oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr yn y capel isaf—"Ond i ti ddyfod a phapyr bach oddiwrth y brodyr o'r capel isaf, mi wnawn ein goreu glas i ti wed'yn, hon a hon bach," ac ychwanegai,—"yr un pethau ydym ni." Da fyddai i'r gwahanol enwadau sydd yn y wlad, gymeryd dalen o'i lyfr ar hyn. Ni byddwn byth yn gweled y gwahanol enwadau crefyddol yn taflu mwy o ddirmyg ar eu gilydd, nac yn eu gwaith yn peidio cydnabod disgyblaeth eglwysig eu gilydd.

Wrth derfynu ein hadgofion am WILLIAM ELLIS, mae yn rhaid i ni roddi un linell eto yn y darlun, cyn y gall y rhai sydd yn ei gofio ei adnabod ynddo. Mao yn ddrwg genym fod yn rhaid i ni ddyweyd dim a duedda i anurddo dim arno. Ond gan mai darlun dyn ydym yn ei geisio ei dynu, nis gellir ei ddisgwyl heb ei golliadau; yr ydym yn cyfeirio at y duedd ymarhous oedd ynddo gyda phob peth, Diffyg prydlondeb oedd ei ddiffyg mawr ef. Byddai ar ol gyda phethau y byd a chrefydd, yr oedd tuedd i ymdroi fel greddf gref ynddo gyda phob peth. Pan yn cario llechau o Ffestiniog, efe fyddai yr olaf i fyned i'r gwaith bob dydd. Byddai yr olaf yn cneifio ei ddefaid, ac yn casglu ei gynhauaf i ddiddosrwydd. Yr oedd yr un fath gyda phethau crefydd; byddai ar ol yn myned i'r Gymanfa, y Cyfarfod Misol, ac i'r moddion wythnosol yn ei gartref. Byddai tua chanol y seint bron yn ddieithriad pan yr elai efe i mewn, a gwelwyd ef rai gweithiau yn myned yno pan y byddont ar ymadael. Yr oedd cymydog iddo o'r enw Richard Llwyd yn myned i'r saiat un noson