Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

un man yn union deg." Fe feddyliodd Mr. Humphreys am roddi cerydd caredig iddo am ei fod gymaint ar ol yn myned i'r moddion. Gofynai iddo wrth holi am hanes yr achos yn y lle, ar adeg eu Cyfarfod Misol,— "A ydyw y frawdoliaeth yn dyfod at eu gilydd yn dda, WILLIAM, i'r moddion wythnosol?"

"Ydynt, yn dda iawn, Humphreys bach," ebe yntau.

"A ydynt yn dyfod yn lled brydlon?" gofynai y gweinidog drachefn.

"Wel, Mr. Humphreys bach," ebe yntau, yr ydym yn myned o bob cyfarfod gyda'n gilydd yn daclus." Fe welodd Mr. Humphreys nad oedd dim yn well iddo wneyd na gadael llonydd iddo.

Collasom ef pryd nad oedd neb yn meddwl ei golli. Mae yn wir fod ei iechyd wedi gwaelu er's blynyddoedd; dioddefai ar brydiau boenau arteithiol yn ei gyllau. Yr oedd trwy hyn yn ymgynefino âg angau, a byddai yn hawdd ganddo ers talm droi cyfeiriad ei ymddyddanion at awr ei ymddatodiad. Ni chyfyngwyd ef i'w wely ond am ychydig amser; cael gwaed i fyny fu yn angau iddo. Yr oedd yn hynod ymostyngar i ewyllys Duw yn ei gystudd diweddaf. Yr unig beth y cwynai o'i herwydd ydoedd na buasai yn cael ei ollwng. Dywedai wrth holi gŵr ieuange yn nghylch amser marwolaeth ei fam, yr hon oedd at ei oed ef.

"Y mae hi wedi cael braint fawr rhagor fi, cael myn'd i'r nefoedd y pryd yr aeth hi, a minau yn cael fy nghadw yma rhwng dannedd cythreuliaid."

Nid oedd yn ofni dim gyda golwg ar ddiogelwch ei gyflwr. Pan y dadebrodd o un o'r llewygfeydd oedd yn ei gael—pan y byddai gwaed yn d'od i fynu iddo—gofynai