"Neithiwr mewn breuddwyd"—cadwai Othniel ei lais yn dawel a thaer—"gwelwn y proffwyd ifanc o Nasareth yn sefyll tu allan i ogof dywyll, afiach. Yr oedd ei ddwylo'n rhwym a'i wedd yn welw gan flinder, ond safai yno'n wrol a chryf a'r heulwen ar ei wyneb a'r awel iach yn chwarae â modrwyau'i wallt. Ymddangosai i mi fel darlun o lendid a rhyddid a dewrder. Glendid, er bod olion gwaedlyd y fflangell ar ei wisg. Rhyddid, er ei fod yn rhwym. Dewrder, er y dywedai'i lygaid wrthyf fod ei fywyd yn nwylo cynllwynwyr yr ogof gerllaw."
"Pam y mynni i mi wrando ar y sothach hwn, Othniel?" "Yn yr ogof gwelwn amryw o wŷr pwysig a chyfoethog eu golwg a hardd eu gwisg yn cilwenu'n hyll ar ei gilydd. Yn ddieflig o hyll a'u hwynebau fel rhai rhyw anifeiliaid melltigedig o greulon. Pan edrychais i arnynt hwy, fe droes y breuddwyd yn hunllef. Deffrois mewn dychryn . . . 'Nhad?"
"Ie?"
"Adwaenwn un o'r wynebau hyn yn dda, er iddo ymddangos mor ddieflig yn fy mreuddwyd."
"A hwnnw?"
"Eich . . . wyneb chwi."
Chwarddodd Joseff, gan geisio swnio'n ddifater, ond yr oedd llygaid taer ei fab yn ei ddychrynu er ei waethaf.
"Ac ystyr y breuddwyd ffôl hwn?" gofynnodd. "Ni wn i ddim. Ond efallai fod ynddo. . .
"Ie?"
"Rybudd."
Chwarddodd Joseff eto, ac yna cofiodd wrth glywed lleisiau oddi allan fod yn bryd iddo gychwyn am y synagog.
"Ceisia orffwys dipyn, Othniel," meddai yn ei dôn arferol a charedig. Yr oedd yn hoff iawn o'r mab addfwyn a breuddwydiol hwn, ac edifarhâi yn awr iddo fod mor llym a gwatwarus wrtho.
"Mi wn fod coel mewn breuddwydion," chwanegodd, "ond nid ym mhob un, 'machgen i. A naturiol iawn yw i ti, gan dy fod yn wael, freuddwydio am y swynwr hwn a'r gwyrthiau' y mae pobl anwybodus ac ofergoelus fel Elihu yn clebran amdanynt . . . "
"'Nhad?"
"Ie, Othniel?"