Ymlwybrodd y dyrfa'n ôl tua'r Praetoriwm, a phawb yn preblan yn gyffrous. Beth a wnâi Pilat ag ef y tro hwn? Yr oedd yn rhaid iddo'i gondemnio Oedd, y Rhufeinwr trahaus iddo, yn lle rhoi sen ar y Sanhedrin a'r Archoffeiriad fel hyn. A fyddai croeshoelio? Pa bryd? Heddiw?
Llanwyd y Palmant eto, a chynyddasai'r dorf gymaint nes bod llu mawr a checrus tu allan i'r pyrth. Llefai'r bobl hyn beth bynnag a ddeuai'n rhwydd i'w tafodau, gan weiddi er mwyn gweiddi, fel plant swnllyd wrth chwarae.
Aethai negeswyr o'u blaenau, yn amlwg, a disgwyliai Pilat hwy. Dygesid ei orsedd o ifori i'r oriel ac eisteddodd arni, gan edrych i lawr yn ddig ar y dyrfa afreolus. Wedi i'r milwyr a'r plismyn arwain y carcharor i fyny'r grisiau, galwodd swyddog am osteg, ac yna llefarodd y Rhaglaw braidd yn ddiamynedd, fel petai'n dyheu am roi terfyn buan ar yr holl ystŵr a brysio ymaith.
"Chwi a ddygasoch y dyn hwn ataf fi fel un yn gŵyrdroi'r bobl ac wele, myfi a'i holais ef yn eich gwydd chwi ac ni chefais ynddo ddim bai, ddim o'r pethau yr ydych chwi'n ei gyhuddo ohonynt. Na Herod chwaith. Anfonais chwi at y Tetrarch, ond yn ôl yma y gyrrodd ef y carcharor. Ni wnaeth hwn ddim sy'n haeddu marwolaeth. Am hynny, mi a'i ceryddaf ef ac a'i gollyngaf ymaith."
Gwelai Joseff wynebau llon Heman ac Ioan a'r lleill yng nghefn y Palmant a gwenodd yn hapus arnynt. Ond bu farw'r wên ar ei wyneb cyn gynted ag y daethai yno: o'i amgylch ym mhob cyfeiriad, fel tonnau chwyrn yn ymhyrddio ar greigiau, torrodd rhyferthwy o brotest, gan ymdaenu i gyrrau pellaf y dorf tu allan i'r pyrth. A chilwenai'r hen Falachi a'r lleill ar ei gilydd.
Syllodd Pilat yn ddirmygus ar y dyrfa, gan wybod mai creaduriaid Caiaffas a'i fagad o Gynghorwyr taeog oedd y mwyafrif ohonynt. Yna taflodd olwg ar y carcharor, a chredai Joseff fod edmygedd yn ei wedd. Safai'r Nasaread rai camau oddi wrth yr orsedd, yn llwyd ac unig ond yn ddewr ac urddasol a'i ddwylo rhwym wedi'u plethu o'i flaen. Er bod y Rhaglaw'n enwog am ei greulonderau gwaedlyd, edmygai Joseff ef yn awr yr oedd am fynnu chwarae teg i ŵr diamddiffyn.
Ond ymddangosai'n betrus, heb wybod beth oedd y cam