"Ond fe laddodd Rufeinwr!"
"Do. Ond fe ollyngir carcharor yn rhydd i'r Iddewon ar yr Ŵyl hon bob blwyddyn. Wel, Barabbas yw'r gŵr ffodus eleni."
Ffrydiai llawenydd i galon Longinus. Nid Barabbas oedd yr unig un a ryddhawyd! Fe'i rhyddhawyd yntau hefyd o garchar y gwaith anfad a roddwyd iddo. Cododd i ddychwelyd y taclau ysgrifennu i'r silff a brysiodd allan, gan daflu gwên ddiolchgar ar y canwriad a dorasai'r newydd am Farabbas. Nodiodd hwnnw'n garedig ond braidd yn ddiddeall.
Aeth Longinus i'r cwrt at yr hen Farcus. Cafodd ef ar fin gollwng y milwyr ymaith, ac wedi iddo wneud hynny brysiodd at ei ganwriad.
"Popeth yn barod, Syr. Dewisais Fflaminius, Leo, a Lucius. Gofelais hefyd fod eich gwas yn cyfrwyo'ch march chwi ac un y Canwriad Sextus. Y mae'r gwas a'r meirch yn aros tu allan i'r porth."
"Diolch, Marcus. Ond ni fydd angen y march na'r milwyr arnaf fi."
"O, Syr?"
"Clywais i'n carcharor ni gael ei ryddhau. Gollyngir un yn rhydd bob blwyddyn ar yr Ŵyl hon, ac amdano ef y gofynnodd yr Iddewon i'r Rhaglaw. Felly, Marcus, cymerwch gwpanaid neu ddau o win, y pedwar ohonoch, ac yfwch i'm hiechyd! Dyma bres i dalu amdano. Yfwch, Marcus, yfwch!"
Swniai Longinus fel bachgen llon wedi dianc rhag cosb. Cymerodd Marcus y pres, ond yn lle diolch amdanynt daliai hwy yn ei law yn betrusgar.
"A ddaeth gair oddi wrth y Llywydd, Syr?"
"Naddo, ddim eto. Ond fe ddaw unrhyw ennyd . . . O, dacw un o'i weision yn croesi'r cwrt y foment 'ma. I chwilio amdanaf, yn sicr."
Brysiodd at y gwas yn ffyddiog: byddai'n arbed iddo ddringo'r grisiau i'w ystafell a chael nad oedd neb yno.
"Ai myfi a geisiwch, tybed?"
"Chwi yw'r Canwriad Longinus, Syr?"
"Ie."
"Neges oddi wrth y Llywydd Proclus, Syr."