fod ei wyneb yn welw a churiedig a'i lygaid yn wyllt a dryslyd: edrychai fel un a ddeffroesai'n sydyn o ganol hunllef.
"Ni theimlwch yn dda, Syr?"
Tynnodd Longinus ei law tros ei dalcen.
"Rhyw wendid, Marcus. Dof ataf fy hun ymhen ennyd. Tipyn o wendid, Marcus."
Rhuthrai'r bobl yn awr at borth y cwrt, gan feddwl cael gweld y carcharorion yn cychwyn ar eu ffordd i'r groes.
"Syr?"
"Ie, Marcus?"
"Gofalwn ni am y carcharor, Syr, os byddwch chwi cystal â chadw'r bobl draw. Arhoswch ennyd, Syr."
Brysiodd ymaith at un o'r milwyr eraill a chymerodd chwip fawr oddi arno. Dychwelodd a'i rhoi hi i Longinus.,
"Bydd hon yn help i chwi, Syr. Ac nid ofnwn i ei defnyddio hi petawn i'n eich lle chwi! Yr ydym yn barod i gychwyn, Syr. Fe fflangellwyd y carcharor gan filwyr y Rhaglaw.'
"Felly y gwelaf. Yn greulon hefyd."
"Ar ganol ei braw, Syr. Ni welais i mo hynny'n digwydd erioed o'r blaen. Ond credai'r Rhaglaw y byddai'r bobl yn gadael iddo'i ryddhau wedyn. Dyna oedd un o'r milwyr yn ddweud, beth bynnag."
"Un gair, Marcus."
"Ie, Syr?"
"Y mae gwisg borffor am y carcharor a choron ddrain am ei ben. Tynnwch hwy. Rhowch ei wisg ei hun amdano.'
"O'r gorau, Syr."
"A chyn inni gychwyn, Marcus, hoffwn ddiferyn o win."
"A yfwch chwi'r posca, Syr? Daethom â chostrelaid o hwnnw gyda ni."
"Clywais amdano, ond nid yfais ddim ohono erioed."
"Yr unig win a gawn ni wrth ein gwaith, Syr. Fel finegr. Ond y mae'n wlyb! Dacw'r creadur Fflaminius 'na yn yfed eto! Milwr da, Syr, os gall rhywun ei gadw rhag meddwi byth a hefyd."
Rhuthrodd ymaith i gipio'r gostrel oddi ar y milwr Fflaminius, ac yna dug gwpanaid o'r gwin i'r canwriad. Yfodd yntau, er bod chwerwder y ddiod yn atgas ganddo.
"Diolch, Marcus. Yr oedd angen hwn'na arnaf . . . O, dyma'r Canwriad Sextus."