"Dof gyda thi, Ben-Ami,' meddai ar unwaith . . . Na, nid oes raid i chwi bryderu am Beniwda. Unwaith eto, bendith arnoch chwi, Syr."
"Ac arnoch chwithau, Dan y Gwehydd. Dof i'ch gweld yfory ac i gyfarfod eich mab.'
"Byddaf yn edrych ymlaen at hynny, Syr."
Brysiodd Joseff i lawr y stryd a gwelai Nicodemus yn aros wrtho ger Basâr y Peraroglau.
"Prynais ganpwys, Joseff," meddai. "Myrr ac aloes. Bu bron i'r gwerthwr â llewygu! Aeth dau o'i weision â hwy at y bedd, a byddant yn ein dysgwyl yno."
Ioan a'r gwragedd, yr hen Elihu, Longinus, y pedwar milwr yr oedd digon o ddwylo parod a thyner i dynnu'r corff i lawr a'i roi yn y lliain gwyn pan ddychwelodd y ddau Gynghorwr i Golgotha. Yna mynnodd y ddau filwr Marcus a Fflaminius gael yr anrhydedd o'i gludo i'r ardd gerllaw. Cerddai'r cwmni bychan o wŷr yn araf a dwys, a dilynai'r gwragedd gydag Ioan, gan wylo'n chwerw. Yr oedd y bedd fel ogof helaeth wedi'i naddu yn y graig, a safai wrth ei ddrws gylch mawr o faen y gellid ei dreiglo ymaith ar hyd rhigolau. Symudwyd y cynion o garreg a ddaliai'r maen yn ei le, a gwthiodd Marcus ef o'r neilltu. Tu fewn i'r bedd yr oedd cyntedd eang, ac yno yr eneiniwyd y corff â'r peraroglau a brynasai Nicodemus. Yna rhoesant ef i orwedd ar gilfach wedi'i thorri yn y graig, a chamodd pawb allan yn dawel a dwys. Gwthiodd Marcus a Fflaminius y cylch o faen yn ôl i'w le, gan afael ynddo fel petaent yn ofni i'w sŵn darfu ar gwsg y marw. Gŵyrodd pob un ei ben wrth wrando ar rygniad olaf y maen. Yr oedd rhywbeth ofnadwy o derfynol yn y sŵn.
Aeth y mwyafrif ohonynt ymaith tua'r ddinas, ond troes y milwyr yn ôl i Golgotha i ddwyn y groes i'r Praetoriwm ac i arwain march Longinus i Wersyll Antonia. Sylwodd Joseff mor dawel oeddynt oll. Ni lefarwyd gair tu fewn i'r bedd, ac yn awr yr oedd pob un fel pe'n ofni torri ar y mudandod dwys. Yn dawel a phrudd hefyd y troes pob un i'w ffordd wedi cyrraedd heolydd unig y ddinas. Ond cerddodd Longinus gyda Joseff at Westy Abinoam.