"Pam?" Syllai Rwth yn ystyfnig ar y llawr.
Yr oedd hwn yn gwestiwn annifyr i Sadwcead cyfoethog. Casáu'r Rhufeinwyr a wnâi'r Phariseaid, gan ddefnyddio pob cyfle i ennyn llid y bobl yn eu herbyn, ond chwiliai Joseff a'i ddosbarth am fywyd esmwyth, tawel, gan geisio cael y gorau o'r ddau fyd, eiddo'r Iddew a'r Rhufeinwr. Y gorau mewn cyfoeth a moeth. Wedi'r cwbl, dim ond unwaith yr oeddych ar yr hen ddaear 'ma, onid e? A chan i chwi ddigwydd bod mewn gwlad ag estroniaid yn rheoli ynddi, wel, rhaid oedd talu rhyw gymaint o wrogaeth iddynt. Dim ond i chwi fod yn gwrtais wrthynt hwy, yr oeddynt hwythau felly wrthych chwithau. A thalent yn hael ac yn brydlon am y gwin a brynent gennych.
"Wel," meddai Joseff, gan osgoi'r gofyniad, "efallai y bydd y dyn ifanc yn cael ei symud eto cyn hir—i Germania neu i Gâl am ddim a wyddom ni. Ac os ei di yn rhy hoff ohono, byddi'n ei theimlo hi'n chwith ar ei ôl."
Ceisiai swnio'n garedig a thadol, a siaradai'n araf a phwyllog. Ond yr hyn a hoffai ei ddweud mewn gwirionedd oedd bod ei ferch wedi gwirioni'i phen yn lân â'r canwriad a bod gan Longinus fwy o ddiddordeb yn ei brawd Othniel nag ynddi hi. Gallai rhywun dall weld hynny, meddai wrtho'i hun.
"Y mae Longinus wedi cael ei symud i Jerwsalem yn awr," meddai'r eneth yn ddicllon, gan rythu ar ei thad fel petai ei fai ef oedd hynny. "Pan oedd yn Jopa, gallai redeg i lawr yma i'n gweld weithiau. Ond ni welwn ddim ohono o hyn ymlaen. Dyna beth sy'n dod o fyw mewn rhyw dwll o le fel hwn."
Rhuthrodd heibio iddo ac allan o'r tŷ cyn iddo gael cyfle i ddweud gair arall. Aeth yntau ymlaen yn ffwndrus tua'r ystafell—fwyta.
Yr oedd y bwrdd yno wedi'i osod, a hanner—orweddai ei wraig ar fainc esmwyth yn aros i'r teulu ymgynnull. Plannodd ddau lygad llidiog arno.
"Arnoch chwi y mae'r bai, Joseff."
"Y? Bai? Bai am beth, Esther?"
"Am fod Beniwda'n tyfu'n wyllt fel hyn. Y mae'r bachgen yn un anturus ac yn dyheu am ryw gyffro yn ei fywyd."
"Ond . . . ond sut y mae'r bai arnaf fi?"
"Beth a ddisgwyliwch oddi wrth fachgen mewn lle fel Arimathea 'ma? Cyfrif ei fysedd yn ei oriau hamdden, y mae'n debyg!"