o farmor gwyn, y crefftwaith o arian ac aur a oedd arnynt, y toeau a'r cromennau euraid, a'r pyrth llachar. Miragl o wynder a gloywder yn hedd yr hwyr.
"Y Deml sanctaidd," meddai Elihu wrth Alys mewn islais dwys.
"Nodiodd y Roeges a'i llygaid yn fawr gan syndod. Daethai hi o Athen, dinas y temlau, ond yr oedd hyd yn oed y Parthenon, y deml enfawr a gysegrwyd i'r dduwies Athene, yn llai o lawer na'r adeilad gorwych hwn. Safai cestyll a chaerau a phlasau heb fod yn nepell oddi wrtho, ond er eu gwyched, ni holodd Alys ddim amdanynt hwy.
Aeth y cwmni drwy borth y ddinas a dringo'r ystrydoedd culion, poblog. Daeth i'w clyw bob iaith ac acen dan haul, a melys i Esther a Rwth oedd syllu ar y gwisgoedd amryliw. Parthiaid a Mediaid o'r Dwyrain; pererinion o Syria ac o dywod Arabia; lluoedd o bob rhan o Asia Leiaf; tyrfaoedd croendywyll o'r Aifft a Libya a Chyrene; gwŷr llwyddiannus o Roeg a Rhufain a hyd yn oed o bellterau Gâl ac Ysbaen—cyfarfyddai myrddiwn yn y ddinas sanctaidd cyn yr Ŵyl.
Yn araf iawn y dringodd Joseff a'i deulu drwy'r berw o deithwyr a phedleriaid a stondinwyr a chardotwyr. Llusgai carafan hir a llwythog o'u blaenau, a dywedai'r llwch a'r chwys ar y camelod a'r asynnod iddynt ddyfod o bell. O'u blaen hwythau rhuai dau fugail blinedig gynghorion i yrr o ŵyn a geifr ar eu ffordd tua'r deml. Ond troes y cwmni o'r diwedd i mewn i Heol y Pobydd a chyrraedd Llety Abinoam. Yno yr arhosai Joseff bob amser pan ddeuai i Jerwsalem.
Yr oedd Abinoam yn y drws i'w croesawu a brysiodd rhai o'i weision i ofalu am yr anifeiliaid.
"Henffych, Abinoam!" meddai Joseff.
"Henffych, Syr! Y mae popeth yn barod i chwi. Cyrhaeddodd eich mab Beniwda ryw ddwyawr yn ôl."
Curodd ei ddwylo ynghyd a rhuthrodd caethwas a chaethferch i gynorthwyo Elihu ac Alys.
Abinoam oedd y gŵr tewaf y gwyddai Joseff amdano, rhyw un cryndod o gnawd enfawr. Chwysai ef pan rynnai pawb arall. Anadlai'n drwm wrth symud a siarad, ond er hynny, yr oedd yn ŵr huawdl iawn.
"Rhyw newydd, Abinoam?" gofynnodd Joseff ar ei ffordd i mewn i'r tŷ.