"Heman, Heman y Saer. A beth yw'r ail addewid, Esther?"
"Peidio â bod mor feirniadol o'r Archoffeiriad Caiaffas. Y mae ef yn ŵr craff ac yn sicr o wybod sut y teimlwch tuag ato. Rhaid i chwi guddio'ch teimladau ac ennill ei ffafr."
"Cynffonna?"
"Na, y mae digon yn gwneud hynny. Dim ond bod yn gyfeillgar a. . . a pharchus, heb fod yn wasaidd. . . Wel?" Nodiodd Joseff yn araf: hi a oedd yn ei lle, efallai. Er nad oedd ganddo barch at Gaiaffas, ef oedd yr Archoffeiriad a Llywydd y Sanhedrin, ac nid oedd modd i neb ddyfod i'r amlwg heb ei fendith ef. Ie, Esther a oedd yn iawn: nid oedd dim i'w ennill trwy wylio Caiaffas yn feirniadol a drwgdybus fel y gwnaethai ef ers tro byd.
"Yr wyf yn addo, Esther. Af at Gaiaffas yfory ynglŷn â'r Nasaread hwn. Dywedaf wrtho . . ." Ond ni wyddai Joseff beth a ddywedai wrtho.
"Dywedwch wrtho fod ei ddylanwad yn dechrau cyrraedd hyd yn oed i Arimathea. Fod eich hen gaethwas Elihu a'ch mab Othniel yn sôn amdano fel petai'n rhyw broffwyd mawr. Fod yn bryd ei ddal a'i gaethiwo, ef a'i ddisgyblion. Pwy yw rhyw Alilead fel hwn, rhyw dipyn o bysgodwr ..?"
"Saer."
"Saer, ynteu. Pwy yw rhyw dipyn o saer i farchogaeth fel Brenin i Jerwsalem? Ac i gymryd arno wneud gwyrthiau ac iacháu pobl? A hawlio bod yn Feseia? Ond ni fydd llawer o wahaniaeth beth a ddywedwch: bod o ddifrif, dod allan o'ch cornel, sy'n bwysig."
"Ysgwyd fy nyrnau!"
"Ie, ysgwyd eich dyrnau, os mynnwch, Joseff. Dangos eich bod yn fyw i bethau, ac nid yn cysgu yn y Sanhedrin."
"O'r gorau, Esther. Ysgydwaf fy nyrnau yr yfory nesaf. Ac o hyn allan byddaf yn wên i gyd yng ngwydd Caiaffas!" Gorffennodd Joseff ei gwpanaid gwin a chododd oddi wrth y bwrdd, gan deimlo'n llawer hapusach yn awr.
"Af am dro bach i fyny at y Deml," meddai. "Y mae hi'n noson braf."
"Ydyw. Ond gwell i chwi fynd ag un neu ddau o weision. Abinoam gyda chwi. Gwyddoch mor beryglus yw'r heolydd gyda'r nos."