inus gip ar ei wyneb fel y deuai trwy'r porth, ac ymddangosai'n llym a phenderfynol, fel petai rhywun neu rywbeth tu fewn i'r Cyntedd wedi'i gythruddo. Y cyfnewidwyr arian a'r gwerthwyr anifeiliaid efallai, meddai'r canwriad wrtho'i hun, gan gofio'r farchnad o le a welsai ef pan aethai am dro at y Deml yn y prynhawn.
Crwydrodd Longinus yn arafi lawr tua Phorth Effraim, lle'r oedd i gyfarfod Rwth. Nid edrychai ymlaen at ei gweld, a chwiliai'n wyllt am eiriau i dorri'r newydd iddi. Ond ni allai yrru'r Proffwyd ifanc o'i feddwl. Yr oedd yn ddyn hardd a chryf o gorff, a rhyw urddas tawel, cyfrin, yn perthyn iddo, ond yr olwg ddwys a hanner—dosturiol yn ei lygaid a wnaethai argraff ar y canwriad. Ceisiai'r bobl ei groesawu fel rhyw fath o frenin, ond ni wnâi'r holl orfoledd ond ei dristáu petai ganddo weledigaeth dawel, bur, a chain, a'r sŵn yn tarfu ei gogoniant hi. Fel petai'r rhuthro a'r bloeddio a'r chwifio yn bethau ennyd, ac yntau uwchlaw rhyw grychiadau dibwys ar lif amser. Fel petai . . .
Ond rhaid iddo egluro pethau i Rwth. Yr oedd y ferch yn syrthio mewn cariad ag ef er ei waethaf, ac nid oedd ganddo ef fawr ddim diddordeb ynddi hi. Yn ei brawd, Othniel, ond nid yn Rwth.
Cofiodd ei chyfarfod y tro cyntaf oll. Ychydig ddyddiau wedi iddo gyrraedd Jopa oedd hynny, a hen flinasai ar glebran ac yfed y gwersyll. Credasai y gallai trwy ymuno â'r fyddin anghofio'i gartref a'i rieni a'i gyfeillion, a dileu pob atgof am ei frawd Galio ac am Phidias, y caethwas a'i lladdodd ac a groeshoeliwyd. Yfodd yntau fel y milwyr eraill, ond ni châi flas ar y gwin; ceisiodd yntau glebran a rhegi a chwerthin yn uchel, ond gwyddai ei fod fel dyn sobr yn cymryd arno fod yn feddw; chwaraeodd yntau disiau am oriau meithion, ond yn beiriannol a difater y gwnâi hynny, heb falio ai ennill ai colli yr oedd. A gwyddai yn ei galon na ddeuai anghofrwydd ar hyd llwybrau mor rwydd.
Hiraethai am Rufain; am ei dad, y Seneddwr Albinus; am ddwyster tawel ei fam; am ei chwaer Tertia a'i chwerthin a'i direidi; am blas ei gartref a'i gysur a'i gyfoeth a'r gerddi cain o'i amgylch ef; am gyfeillion y Coleg a'r llysoedd barn ac am ddadleuon ffyrnig â'i gyd—fyfyrwyr ynghylch manion astrus y gyfraith. Ond yn lle bod yn gyfreithiwr ifanc yn Rhufain ac