Tudalen:Yr Ogof.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

draed. Rhaid oedd i bob un o'r pererinion dalu hanner sicl i Drysorfa'r Deml. Ond deuent hwy o bob rhan o'r byd, gan ddwyn gyda hwy arian llawer gwlad. Yr oedd delw o'r Ymerawdwr neu o ryw frenin neu dduw neu dduwies ar yr arian hynny, a phechod yn erbyn Iafe oedd dod â "delw gerfiedig" yn agos i'w Deml sanctaidd. Nid oedd cerflun ar arian y Deml nac ar arian Galilea, ac felly, y rhai hynny'n unig a oedd yn gymeradwy ger bron Duw. Rhaid oedd i'r pererinion fynd at fyrddau'r cyfnewidwyr i newid eu harian ac i dalu'n hallt am y gymwynas. Pwysai'r cyfnewidiwr y darnau o arian dieithr a'u cael, bron yn ddieithriad, yn brin. Uchel oedd y gweiddi a'r dadlau, ond wedi hir ymryson, y cyfnewidiwr a enillai, a thalai'r pererin druan gan regi'n chwyrn. Yna troai ymaith at werthwr anifeiliaid i brynu oen neu golomen i'w haberthu. Y cnaf hwnnw'n gwrthod cydnabod gwerth yr arian tramor. Yn ôl eto at fwrdd y cyfnewidiwr i newid mwy o arian ac i ddadlau'n ffyrnig unwaith yn rhagor. Dychwelyd at y gwerthwr a chael bod pris yr oen neu'r golomen wedi'i godi'n sydyn ar ryw esgus. Ond rhaid oedd aberthu onid i hynny y daethai'r pererin bob cam o Bersia neu'r Aifft neu, efallai, o Ysbaen? Mynd at fwrdd y cyfnewidiwr y trydydd tro—i gael ei dwyllo eto. Ac yn ei blas islaw'r Deml, gwenai'r cyn—Archoffeiriad Annas, er gwybod ohono mai "bythod meibion Annas" oedd yr enw a roddid i'r byrddau melltigedig hyn gwenai am mai i'w goffrau ef a'i deulu yr âi llawer o'r elw.

"Yr oedd y dyn yn cablu, Joseff," chwanegodd Malachi, gan ddal i ysgwyd ei ddyrnau ac i ddawnsio o amgylch.

"Oedd. Dyfynnu'r Proffwydi, os gwelwch chwi'n dda." "Beth oedd ei eiriau, Malachi?"

"Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i,' gwaeddodd â'i chwip yn ei law, eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.' Pwy yw ef i ŵyrdroi geiriau cysegredig y Proffwydi i'w amcanion ei hun? Pwy yw ef? Pwy yw ef?"

"Ie, pwy yw ef?" cytunodd Joseff, er y teimlai fod y term "ogof lladron" yn un pur gywir yn y cyswllt hwn.

"Gabledd yw peth fel yna, Joseff, cabledd a dim arall." Edrychai'r hen frawd yn ddwys ar y llawr, ond goleuodd ei lygaid mewn llawenydd wrth ganfod sicl gloyw wrth ei draed. "Hei, Arah, Arah, dyma iti un!' gwaeddodd yn gyffrous ar ei fab. 'Faint gefaist ti?"

"Dim ond hanner sicl, 'Nhad," meddai llais digalon o dan y bwrdd gerllaw.

Gadawodd Joseff Malachi a'i feibion i'w hymchwil, gan geisio teimlo'n ddig tuag at y Nasaread a'i ehofndra. Yr oedd y dyn yn un gwyllt a digywilydd, a gorau po gyntaf y delid ac y cosbid ef. Ie, gorau po gyntaf y rhoid y terfysgwr hwn mewn cell . . . Ac eto, yr oedd hanner—gwên yn llygaid Joseff wrth iddo feddwl am brofedigaethau'r cyfnewidwyr arian.

Aeth ymlaen ar draws y Cyntedd enfawr a thrwy fwlch yn y Soreg, y clawdd rhyngddo a'r Deml ei hun. Yna dringodd y grisiau marmor i Gyntedd y Gwragedd. Cerddai'n gyflym a phenderfynol: hwn oedd ei gyfle i roi awgrymiadau Esther ar waith. Os oedd yr Archoffeiriad yn y Deml, meddai wrtho'i hun fel y brysiai drwy Gyntedd Israel ac i fyny'r grisiau i Gyntedd yr Offeiriaid a thua'r Allor, âi i siarad ag ef. A cheisiai, yn ffigurol, ysgwyd ei ddyrnau.

Arafodd ei gamau ac yna safodd, gan dynnu'i law trwy ei farf. Cymerai arno feddwl yn galed am rywbeth, ond mewn gwirionedd gwrandawai'n astud ar sgwrs dau Pharisead a safai yn nrws un o'r ystafelloedd a neilltuwyd ar gyfer aelodau'r Sanhedrin.

"Fe ddywedais i ddigon yn y Sanhedrin diwethaf," meddai un—gŵr bychan tew o'r enw Esras, o Gapernaum.

Cytunodd y llall, Isaac o Jericho—dyn tenau, hirdrwyn, a’i wefusau culion yn un llinell syth—drwy wneud sŵn hir yn ei wddf.

"Petai rhai ohonoch chwi'n dod i fyny i Gapernaum acw," aeth Esras ymlaen, "caech weld trosoch eich hunain. Y bobl wedi gwirioni'n lân ac yn ei ddilyn o le i le gan frefu fel defaid. Efallai y coeliwch chwi yrwan, wedi i chwi weld â'ch llygaid eich hunain."

Y sŵn yn ei wddf oedd ateb Isaac eilwaith.

"Wedi i'r un peth ddigwydd o dan eich trwynau chwi," chwanegodd Esras. "Yma yn Jerwsalem. A bore heddiw wel, gwelsoch wynebau'r bobl pan yrrodd y dyn y gwerthwyr a'r cyfnewidwyr arian o'r Cyntedd. Wrth eu bodd, Isaac, wrth eu bodd! A'r plant yn gweiddi Hosanna!' Yng Nghyntedd y Deml sanctaidd ei hun, Isaac!