Tudalen:Yr Ogof.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cydio ynom ni, bob un ohonom, a'n llusgo o'r Deml ac o'r ddinas i'n llabyddio. Oherwydd yr oeddynt yn meddwl y byd o'r Ioan 'na, fel y gwyddoch chwi, ac yn ei alw'n Broffwyd Duw. Ond os dywedai O'r Nef,' yna gofynnent pam y gadawsom iddo gael ei ddal a'i wawdio a'i ladd gan Herod. Yr oedd rhyw ddyn yn dawnsio o flaen Mathan, gan grechwenu a chwifio'i ddwylo yn ei wyneb a gweiddi Atebwch! Atebwch! Bu bron imi alw rhai o blismyn y Deml, ond yr oeddwn i'n ofni cynnwrf."

"Beth a ddywedodd Mathan?"

"Beth a allai ef ddweud, Joseff? Dim ond na wyddem ni ddim o b'le yr oedd awdurdod Ioan.'"

"Hm. A'r bobl?"

"Wrth eu bodd, wrth eu bodd. Fe chwarddodd y crechwenwr dros bob man, fel dyn gwallgof. Wedyn, dyna'r dyrfa i gyd yn dechrau chwerthin yn wawdlyd, amryw yn pwyntio'n ddirmygus atom, rhai hyd yn oed yn gwthio'u tafodau allan. Meddyliwch, mewn difrif, Joseff!" Sychodd Esras y chwys oddi ar ei dalcen wrth gofio am y peth. "Ni chafodd offeiriaid a henuriaid erioed eu trin fel hyn yn unman. Naddo, erioed! Ac yng nghyntedd y Deml!" Daliodd ei ddwy law i fyny i bwysleisio'i fraw cyn chwanegu, "Yng nghyntedd y Deml sanctaidd ei hun, Joseff "

"Dacw'r Archoffeiriad yn dod," sibrydodd Isaac.

Gwelent ef yn y pellter, offeiriaid yn cerdded un bob ochr iddo ac un arall o'i ôl, yn nhraddodiad y Deml. Yr oedd Caiaffas wedi'i wisgo yn ysblander ei wisg seremoniol, fel petai ar ei ffordd i wasanaeth pwysig neu i'r Sanhedrin.

"Y mae Herod newydd alw i'w weld," sibrydodd Isaac eto. "Mi welais ei negesydd yn dod o'i flaen ryw awr yn ôl."

Gan ei fod mor dal, edrychai Caiaffas yn urddasol yn ei wisgoedd amryliw o wyn a glas a phorffor ac ysgarlad, a hyd yn oed o bellter disgleiriai'r ddwyfronneg o aur a'r deuddeg perl ar ei fynwes a'r cylchau o edau aur hyd ymylon ei wisg. Ond cerddai'n ddifater, fel petai'n cymryd arno nad oedd dim anghyffredin ynddo ef na'i wisg. Arhosai weithiau i fendithio rhywun a ymgrymai ar fin ei lwybr, fel gŵr goludog yn rhoi elusen i drueiniaid, ac yna cerddai ymlaen drachefn yn urddasol o hamddenol. Dywedai ei wyneb rhadlon nad oedd dim yn y byd yn blino Caiaffas: yr oedd yn feistr llwyr arno'i hun, ar bob edrychiad ac ystum.