Nodiodd Joseff, gan chwarae â'i farf a gwenu ar Gaiaffas. "Na minnau," meddai, gan deimlo y dylai ddweud rhywbeth a chan wybod yr adroddai'r Archoffeiriad hanes y prynhawn yn fanwl, fanwl wrth yr hen Annas.
Agorodd y drws eilwaith.
"Jwdas o Gerioth, f'Arglwydd," meddai'r gwyliwr cyn moesymgrymu a throi ymaith.
Moesymgrymodd y dieithryn yntau, ond braidd yn frysiog ac esgeulus, cyn dyfod ymlaen atynt. Adnabu Joseff y gŵr ifanc hirwallt a welsai'n sleifio'n ôl i dŷ Heman y Saer.
"Yr Arglwydd Annas a yrrodd neges i'm tad," meddai, "yn gofyn imi ddod yma i'ch gweld, f'Arglwydd Caiaffas."
"Y mae'n debyg dy fod yn amau pam?" oedd sylw Caiaffas. "Ydwyf, f'Arglwydd."
Bu distawrwydd ennyd. Gwelai Joseff y dieithryn yn gwlychu'i fin ac yn plethu'i ddwylo'n anesmwyth.
"Wel?"
"Beth yw eich dymuniad, f'Arglwydd?"
"Y mae'r Galilead hwn yn cynhyrfu'r bobl ac yn amharchu'r Deml. Ymhen deuddydd fe fydd Gŵyl sanctaidd y Pasg. Bwriadwn ei ddal, a'i garcharu dros yr Ŵyl. Ac y mae arnom eisiau dy help.'
"Ym mha fodd, f'Arglwydd?"
"Wrth gwrs, byddai'n hawdd inni yrru rhai o blismyn y Deml allan i'r Cyntedd y munud yma i afael ynddo."
"Hawdd iawn, hawdd iawn," sylwodd Esras.
"Hawdd iawn," cytunodd Isaac, gan dynnu'i law dros ei dalcen i leddfu'r boen ar ôl y fath ymdrech meddwl.
"Ond y mae'n rhaid inni osgoi cynnwrf," chwanegodd Caiaffas.
"Rhaid, rhaid osgoi cynnwrf," meddai Esras.
"Rhaid. Dim cynnwrf," cytunodd Isaac gan lusgo o'i wddf sŵn tebyg i'r un a wna ci pan fo'n griddfan yn ei gwsg.
Teimlai Joseff y dylai yntau ddweud rhywbeth.
"Ie, wir," meddai, gan sylweddoli, fel y deuai'r geiriau o'i enau, y buasai "Rhaid, wir" yn well.
"Gwyddom fod un neu ddau o wŷr gwyllt a phenboeth yn ei ddilyn," meddai Caiaffas, "a byddai'r rheini bron yn siŵr o godi'u dyrnau."
Daeth cysgod gwên i lygaid y gŵr ifanc.