gwaywffyn. Nid oes gennyf ond gofyn un cwestiwn syml i'n beirniaid. Dyma ef: ai doeth aberthu ugeiniau, efallai gannoedd, o'n cenedl annwyl er mwyn tawelu un gŵr? A gochir cynteddau'r Deml a heolydd ein dinas sanctaidd gan waed ein pobl er mwyn ffrwyno rhyw saer gorwyllt o Nasareth? A phwy a ŵyr, efallai yr âi'r terfysg yn dân drwy'r wlad, gan alw gwaywffyn y Rhufeinwyr i bob pentref a thref o Hebron i Hermon. Na, buddiol yw i un farw fel na ddifether y genedl oll."
Dywedai Amenau dwys y Cynghorwyr mai prin yr oedd angen y pwyslais araf a roddai'r Archoffeiriad ar bob gair. Ond yr oedd Caiaffas yn ŵr trwyadl—ac yn mwynhau areithio.
"Aeth y Nasaread hwn yn eofn iawn yr wythnos hon. Wedi meddwi ar win ei boblogrwydd, penderfynodd mai ef, ac nid ni, a ddylai reoli'r Deml a'i haberthau a'i harian. Yn ein dwylo ni nid ydyw'r Deml sanctaidd ond ogof lladron.' Ein dyletswydd felly, gyfeillion, yw trosglwyddo'r Deml a'n synagogau iddo ef a'i bysgodwyr o Galilea, i'r gŵr sy'n honni y gall yrru allan gythreuliaid, a hyd yn oed. . . hyd yn oed atgyfodi'r marw . . .
Cododd Joseff a phob Sadwcead arall eu dwylo mewn braw. Atgyfodi'r marw! Yr oedd y syniad yn wrthun iddynt hwy: nid oes gair yn y Ddeddf am fywyd ar ôl hwn, a ffiloreg y Phariseaid oedd sôn am fyd arall. Darfyddai'r enaid pan drengai'r corff. Atgyfodi'r marw, wir! Nid oedd synnwyr yn y geiriau.
"Y maent yn honni iddo, ym mhentref Bethania wythnos yn ôl, atgyfodi gŵr ifanc a fuasai'n farw ers pedwar diwrnod. Beth a ddywedant yn nesaf, ni wn . . . A, yr ydym yn aros amdanoch, Amnon."
Amnon oedd pennaeth plismyn y Deml. Daeth ymlaen o'r drws i foesymgrymu gerbron yr Archoffeiriad.
"Dywedwch yr hanes wrthym—yn fyr."
"O'r gorau, f'Arglwydd. Cawsom ef a'i ddilynwyr yng ngardd Gethsemane. Wedi inni ei ddal a rhwymo'i ddwylo, aethom ag ef at f'Arglwydd Annas.'
"A ddaeth ef yn ufudd?"
"Do, f'Arglwydd, er i ddau o'i ddisgyblion dynnu'u cleddyfau. Fe glwyfodd un ohonynt eich gwas Malchus."