ymddangosent mor ddichellgar ag o'r blaen, gan sibrwd wrth ei gilydd i ennyn dig. Rhwbiodd ei lygaid yn ffwndrus. Ai ar ei olwg ef yr oedd y bai? Tybiai fod y lle'n tywyllu, a gwelai hwythau, henuriaid y genedl, fel criw o gynllwynwyr â'u pennau ynghyd yng ngwyll rhyw ogof. Cilwenent ar ei gilydd, gan sibrwd a nodio'n fradwrus yn awyr fwll ac afiach yr ogof, ond y tu allan, yng nglendid heulwen ac awel iach a chân adar a siffrwd dail, safai'r carcharor hwn, yn lân a rhydd ac urddasol. Rhydd? Ie, ef a oedd yn rhydd, a hwythau yng nghaethiwed eu cynllwynion. Sylweddolodd Joseff fod ei feddwl, heb yn wybod iddo bron, yn ail—fyw'r breuddwyd a gawsai Othniel, a chynhyrfwyd ef drwyddo gan ei fraw a'i ofn.
"Onid atebi di ddim?" Swniai llais yr Archoffeiriad yn atgas i Joseff yn awr, yn rhan o dywyllwch a ffieidd-dra'r ogof. Darfu'r sibrwd ennyd, a gŵyrodd amryw ymlaen yn astud. Ond ni ddywedai'r carcharor air, dim ond edrych yn ddiysgog i wyneb yr Archoffeiriad.
"Y mae'n greadur ystyfnig," sibrydodd Esras yng nghlust Joseff.
Nodiodd Joseff, ond prin y clywai'r geiriau. Ai yn erbyn y gŵr hwn yr aethai ef yn daeog at Gaiaffas â'i urddwisg amdano ac eiddgarwch yn ei lygaid? Ai ar hwn y dymunai Esther iddo sathru er mwyn dringo i ffafr yr Archoffeiriad? Gwelai eto wyneb Othniel ar ôl ei freuddwyd rhyfedd, a chlywai eilwaith frawddegau dwys yr hen Elihu yn y winllan. "Nid tipyn o saer yw Iesu o Nasareth, Syr. Gwn nad wyf fi deilwng i ddatod ei sandalau ef." Na, nid Elihu ond Heman y Saer a lefarodd y geiriau yna. Tybed a roddwyd i ŵr ifanc yn glaf o'r parlys ac i hen gaethwas annysgedig ac i saer o Gana Galilea ddoethineb mwy nag i Archoffeiriad ac arweinwyr y genedl?
Sylwai Joseff nad edrychai Caiaffas i lygaid y carcharor; troesai ato am ennyd wrth ofyn y cwestiwn, ac yna crwydrai'i olwg i bobman ond i'w wyneb ef. Ni synnai Joseff ddim. Yr oedd rhyw dreiddgarwch rhyfedd yn y llygaid hynny—a rhyw dosturi mawr.
Ymddangosai fel petai'n ofidus ganddo achosi'r cynllwyn annheilwng hwn ymhlith blaenoriaid ei bobl ac fel petai arnynt hwy yn hytrach nag arno ef y dôi barn. Yn wir, hwy, ac nid ef a oedd ar braw.