"A elli di ei glywed?—dyna a ofynnir iti."
"Gallaf, Barchusaf. Yr oedd yn sefyll wrth borth y Cyntedd â'i law i fyny ac yn dweud â llais uchel—Mi a allaf ddinistrio teml Dduw a'i hadeiladu mewn tri diwrnod.' Ac wedyn ..
"Mi a allaf ddinistrio teml Dduw '—ai dyna a ddywedodd?"
"Ie, Barchusaf Rabbi. Yr oeddwn i'n sefyll o fewn . . ."
Mi a allaf ddinistrio' neu Mi a ddinistriaf'?"
Troes y tyst ei ben yn gyflym tua'r fan lle'r eisteddai'r hen Falachi, fel petai'n disgwyl cael arweiniad ganddo ef.
"Mi a allaf ddinistrio neu Mi a ddinistriaf'?" gofynnodd y Rabbi eilwaith.
"Wel, Barchusaf Rabbi, yr oeddwn i'n meddwl iddo ddweud ond wrth gwrs y mae tair blynedd yn amser go hir yr oeddwn i'n meddwl iddo ddweud Mi a allaf,' ond wrth gwrs . . ."
Cododd Caiaffas oddi ar ei orsedd.
"Y mae'r ddau'n cytuno ar yr adeiladu drachefn mewn tridiau," meddai. Troes at y Cyngor.
"Pwy a allai godi'r Deml sanctaidd mewn tridiau? Dim ond Duw ei hun. Neu'r Crist, Mab Duw."
Camodd yn araf i'r chwith, i fin y llwyfan.
"Clywaist beth y mae'r rhain yn ei dystiolaethu yn dy erbyn. A atebi di ddim?"
Ni ddywedodd y carcharor air.
Yr oedd y tawelwch hwn yn rhywbeth newydd iawn i Gaiaffas. Gŵr cwrtais oedd ef, artist mewn gair ac osgo ac ystum, digyffro bob amser yn ei ymwneud â'r awdurdodau Rhufeinig, digynnwrf ym mhob storm ym mhwyllgorau'r Deml neu yn y Sanhedrin—bonheddwr i'r carn. Pan ymfflamychai eraill, ni churai'i galon ef yn gyflymach ac ni ddeuai un cryndod i'w lafar ef: pan godent hwy leisiau a dwylo cyffrous, ni chrychid llyfnder ei feddwl ef: ffyliaid a ymwylltiai gan dywyllu cyngor â brwdfrydedd: nam ar urddas oedd eiddgarwch. Ni chofiai neb fflach dicter neu sêl yn llygaid Joseff Caiaffas, er iddo orfod gwrthdaro droeon yn erbyn rhyfyg Pontius Pilat y Rhaglaw. Valerius Gratus a'i hapwyntiodd yn Archoffeiriad. Daethai'r ddau, trwy ystrywiau Annas, yn bur gyfeillgar, a llifodd llawer o gyfoeth y Deml i goffrau Rhufain y flwyddyn honno. Yna dilynwyd Valerius