"Yr oedd hynny'n hawdd, Syr—i'r Meistr. Yr oedd wedi pregethu wrthynt am wasanaeth a chymwynasgarwch a charedigrwydd. Wel, dyma ryw fachgen yn ei ymyl yn tynnu pum torth haidd a dau bysgodyn o'i ysgrepan ac yn dechrau eu rhannu â'r rhai o'i gwmpas. Gwenodd y Meistr arno a'i fendithio, a chyn hir yr oedd pob un a ddaethai â bwyd gydag ef yn ei rannu â'i gymdogion. Mwy na digon i bawb, Syr. Ac yna fe droes y bobl yn ôl hyd fin y llyn gan ryfeddu.'
"A Jwdas?"
"Gyrrodd y Meistr ni'r disgyblion tua'r cwch i hwylio'n ôl i Gapernaum, gan y dymunai ef ddringo'r bryn i fyfyrio a gweddïo. Hefo Jwdas y cerddwn i i lawr y llethr ar y dŵr. Hy, dyna golli cyfle gwych!' meddai wrthyf. Pe'i cyhoeddai'i hun yn Frenin ger bron y dyrfa acw, fe godai'r bobl drwy holl Galilea a thrwy'r rhan fwyaf o Jwdea hefyd.' 'Gwnaent, y mae'n debyg, Jwdas,' meddwn innau. Ond nid dyna gynllun y Meistr, mae'n amlwg.' 'Wyddoch chwi beth a ddywedodd ef wedyn, Syr?"
"Beth?"
"A wyt tithau'n llwfrgi, Simon Pedr?' gofynnodd imi. I mi, Syr! Oni bai i Andreas fy mrawd ddod rhyngom, fe fuasai Jwdas o Gerioth tros ei ben yn y Llyn. Mi rown i 'lwfrgi' iddo heno hefyd pe cawn i afael ynddo!" Yr oedd ei law ar ei gleddyf eto.
"Na." Ysgydwai Joseff ei ben yn drist. "Y mae'n ddrwg gennyf fi drosto. Yr wyf yn sicr y disgwyliai i'r Crist ddangos ei awdurdod a'i nerth. A lle bynnag y mae ef heno, y mae'n dyheu am y bore a Dydd Iafe. Ac er gwaethaf yr hyn a ddywedwch . . ."
"Na, Syr, os hynny hefyd a gredwch chwi, nid ydych yn deall y Meistr. Neithiwr ddiwethaf, ar ôl i Jwdas fynd ymaith o dŷ Heman, y dwedodd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch am fy mod yn myned at y Tad.' Ac wythnos yn ôl, pan oeddym ar ein ffordd tua Jericho, fe alwodd y deuddeg ohonom ato. Ni welais i erioed mohono'n edrych mor drist, mor siomedig, â'r diwrnod hwnnw. Yr oedd Salome, mam dau ohonom ni, wedi crefu arno am i'w meibion, Iago ac Ioan, gael eistedd un ar ei law ddeau a'r llall ar ei law aswy yn y Deyrnas. I ddweud y gwir, Syr, yr oedd pob un ohonom