hunfan fel dail mewn trobwll. Beth a wnâi'r Proffwyd o Nasareth heddiw, tybed? Gwelai eto'i lygaid dicllon yng Nghyntedd y Deml a'r ofn yn wynebau'r cyfnewidwyr arian a'r gwerthwyr. Ni feiddiai un proffwyd o Rufeinwr ymlid yr offeiriaid ariangar a'r caethferched truain o demlau Cybele neu Aphrodite pe gwnâi, fe'i croeshoelid ef neu fe'i teflid i ganol anifeiliaid rheibus yr arena. Ond er ei ddicter y diwrnod hwnnw wrth y rhai a wnâi'r Deml yn ogof lladron, yr oedd y gŵr yn Iddew, a thebyg ei fod ef a'i ddisgyblion yn awr yn paratoi'n ddefosiynol ar gyfer yr ŵyl. A âi ef i Arimathea, tybed? Os âi, câi ddisgybl dwys ac eiddgar yn ei aros yno, yr oedd Longinus yn sicr o hynny. Ond byddai'r tad, y Sadwcead cyfoethog, yn ffyrnig.
Daeth canwriad o'r enw Sextus i mewn i'r ystafell, gŵr trwsgl a gerwin a'i drwyn mawr afluniaidd yn dyst o lawer ysgarmes ddyrnol. Gwelsai Longinus ef droeon yn y gwersyll, ond ni thorasai air ag ef o'r blaen. Yn wir, prin y siaradai'r cawr afrosgo hwn â neb, dim ond nodio a gwthio'i wefusau a'i ên allan mewn gwg herfeiddiol ar bawb a phopeth gwgai Sextus hyd yn oed pan wenai.
"Troi i mewn am shgwrsh," meddai. Yr oedd yn feddw, er nad oedd hi ond cynnar.
"Eisteddwch, Sextus."
"Diolch."
"Sylwodd Longinus fod craith erchyll yn rhedeg ar draws ei foch a than ei drwyn, a hi efallai a wnâi i'w wyneb wgu'n feunyddiol.
"Braf?" meddai wedi iddo syrthio i gadair.
"Ydyw, wir, bore hyfryd.'
"Ydyw, braf iawn. Rhy braf."
Gododd a chroesi at, gostrelaid o win ar y bwrdd. "Cwpan," meddai.
Estynnodd Longinus ei law a chymryd y gostrel oddi wrtho.
"O?" Edrychai'r cawr yn gas. "Dyma beth yw croesho." "Nid gwarafun y gwin yr wyf, Sextus. Ychydig iawn wyf fi'n ei yfed a chaech y cwbl o'm rhan i. Ond . . . "
Pwysodd y dyn ar y bwrdd a gŵyro ymlaen, gan geisio gwenu.
"Ond beth?"