"Clywsoch yr hyn a ddywedais. Y mae hi'n tynnu at y drydedd awr. Disgwylir y ddau ohonoch yn y Praetoriwm erbyn y bedwaredd. Chwi a'ch milwyr. Gofala'r Canwriad Sextus am ddau o'r carcharorion. Eu henwau yw Gestas a Dysmas. A'r Canwriad Sextus ag wyth o filwyr gydag ef. Y mae Gestas yn ŵr gwyllt."
Saliwtiodd Sextus yn drwsgl a'i law chwith yn dal i afaelyd yn dynn yn y gadair.
"Gofala'r Canwriad Longinus am y trydydd carcharor. Un o'r enw Iesu Barabbas. Cymer y Canwriad Longinus bedwar milwr gydag ef."
Troes y Llywydd ar ei sawdl a cherdded ymaith yn gyflym. Suddodd Sextus i'r gadair â golwg hurt yn ei lygaid meddw a'i geg fawr yn agored.
"Hm. Felly! . . . Felly! Longinush?"
"Ie, Sextus?"
Ond ni ddôi'r geiriau a geisiai i dafod y canwriad meddw. Gofyn am faddeuant fuasai'i fwriad, ond yn lle hynny chwarddodd yn sur a phlentynnaidd, gan rythu o'i gwmpas.
"Dewch, Sextus. Fe wna rhyw awr o gwsg fyd o les i chwi." Nodiodd yn llywaeth a chododd; yna cerddodd ymaith yn herfeiddiol drwy'r drws a throi i'r chwith tua'i ystafell. Gallai ef, Sextus, gerdded cystal â'r Llywydd Proclus unrhyw ddydd!
Eisteddodd Longinus ar fin y bwrdd gan chwarae'n ffwndrus â'r gostrel. Yna aeth i'r ffenestr i syllu eto tua Mynydd yr Olewydd a nef y dwyrain, yn ôl wedyn at y bwrdd, ac at y ffenestr eilwaith. Cydiodd yn y rhòl o gerddi Lucretius a dechreuodd ddarllen cân am y dduwies Cybele a phasiant Natur yn y Gwanwyn. Ond nofio'n ddiamcan ar wyneb ei feddwl a wnâi'r geiriau cyfoethog.
Penderfynodd fynd i lawr y grisiau i'r cwrt i gael gair â'i brif filwr, yr hen Farcus. Cafodd ef yn rhoi gorffwys i'w. wŷr, ennyd, cyn mynd ymlaen â'r ymarfer.
"Marcus?"
"Ie, Syr?" Daeth at ei ganwriad a saliwtio.
"Cefais orchymyn gan y Llywydd Proclus. Y mae tri Iddew i'w croeshoelio. Yr wyf fi a phedwar milwr i ofalu am un ohonynt."
"Dewisaf dri milwr ataf fy hun, Syr. A gofalaf am bopeth."