"Ond posibl, Longinus, posibl."
Gwenodd y Rhufeinwr ac yna yfodd o'i win.
"Pa bryd yr oedd y proffwyd hwn yn byw?" gofynnodd. "Eseia? Dros saith gant o flynyddoedd yn ôl."
"Hm. Y mae gan bob proffwyd a bardd hawl i freuddwydio! Ond peth arall yw i genedl gyfan fagu gobeithion ffôl fel hyn."
"Ffôl?"
"Wrth gwrs.
Yr Aifft, Asyria, Babilon, Persia, Syria, ac yn awr Rhufain—gorthrwm yw ei hanes er yr holl ddyheu. Gorthrwm a chaethiwed."
Edrychodd Othniel yn freuddwydiol drwy'r ffenestr, gan sisial,
"Wrth afonydd Babilon,
Yno yr eisteddasom ac yr wylasom,
pan feddyliasom am Seion.
Ar yr helyg o'u mewn y crogasom ein telynau "."
"Anobaith llwyr," sylwodd y canwriad.
"Dim ond am ennyd, Longinus," atebodd Othniel, gan droi o'r ffenestr. "Wrth afonydd Babilon hawdd oedd llaesu dwylo. Yr oedd Jerwsalem a'i Theml yn sarn a'i phobl wedi'u llusgo ymaith i Fabilon. Ond nid llaesu dwylo a wnaethant. Wrth afonydd Babilon yr aethant ati i gasglu ac i astudio'r hen Ysgrythurau. A phan gawsant ddychwelyd i'w gwlad ymhen blynyddoedd, yr oedd ganddynt bellach gyfreithiau a llenyddiaeth heb eu hail."
"Gwych. Ond ni ddaeth eich Meseia. A phe codai . . . " "Ie?"
"Fe'i hysgubid ef a'i fyddin ymaith mewn dim o amser." Cydiodd Othniel eto yn y rhòl a'i dal yn gariadus yn ei ddwylo.
"Eseia!" meddai mewn edmygedd. "Nid ysgubwyd hwn ymaith. Asyria, nid hwn, a ddiflannodd i'r llwch."
Cymerodd ròl arall oddi ar y silff.
"Eseia arall," meddai.
"O, yr oedd mwy nag un?"
"Oedd. Ym Mabilon y canai hwn, rhyw fardd dienw a'i feddyliau'n aur pur. Ym Mabilon, Longinus. Y mae hwn yn aros―ond beth a ddaeth o holl ogoniant Babilon?"
Nodiodd y canwriad yn araf.