meddai wrth Gestas. Griddfannodd fel y tynnai pwysau'i gorff yn erbyn yr hoelion yn ei ddwylo, yna caeodd ei ddannedd yn dynn ennyd cyn chwanegu, "A nyni yn wir yn gyfiawn, yn derbyn ein haeddiant eithr hwn ni wnaeth ddim allan o'i le."
Ag ymdrech fawr y daethai'r geiriau o'i enau; anadlai'n drwm rhwng pob gair a gwlychai'i wefusau'n aml. Yr oedd yn dda ganddo gael ymlacio'n llipa yn erbyn pren y groes unwaith eto a'i ben ar ei fynwes a'i dafod yn hongian allan fel un ci mewn gwres. Ond cododd ei ben eto ymhen ennyd a throi at y Nasaread.
"Arglwydd," meddai, "cofia fi pan ddelych i'th deyrnas." Chwarddodd Fflaminius ac yna cododd y cwpan i yfed. Ond nid yfodd. Daeth llais y Nasaread yn dawel o'r groes uwchben:
"Yn wir meddaf i ti, heddiw y byddi gyda mi ym mharadwys.
Er gwaethaf pob artaith, yr oedd y llais yn gryf a chadarn, yn llawn sicrwydd. Gostyngodd Fflaminius ei law yn ffwndrus a syllodd yn hir ar y carcharor cyn troi i ymlwybro'n ôl at ei gyd-filwyr. Eisteddodd ar y graig wrth ochr Marcus, ond heb ddywedyd gair. Ymddangosai fel dyn mewn breuddwyd. "Beth sy Fflam?" gwaeddodd Leo. "Wedi gweld ysbryd, was?"
Nid atebodd Fflaminius, dim ond syllu'n syn ar y groes o'i flaen. Ond troes ei ben yn ffyrnig fel y deuai gweiddi eto o blith yr edrychwyr gerllaw, a hylldremiodd tuag at y llefwyr.
"Eraill a waredodd efe; gwareded ef ei hun!"
"Ie, os hwn yw Crist etholedig Duw!"
"Gwared dy hun a disgyn oddi ar y groes!"
Nid crochlefain oedd hwn yr oedd ôl diwylliant' ar y lleisiau a'r ynganiad. Rhai o wŷr y Deml, efallai, meddai Longinus wrtho'i hun, rhai o gynllwynwyr y breuddwyd a gawsai Othniel. Llwyddodd Fflaminius i godi ar ei draed, a chymerodd gam bygythiol i gyfeiriad y gweiddi.
"Mi liciwn i groeshoelio'r cnafon yna," meddai rhwng ei ddannedd, gan gydio'n ffyrnig yn ei waywffon.
Gafaelodd Marcus yn ei siaced a'i dynnu'n ôl i'w le ar y graig.
"Dy dro di, Fflam," meddai, gan estyn y disiau iddo.