"Cymer hon a gwna wisg i ti dy hun o'r deunydd. Gofyn naist amdani droeon. Dyma hi iti, Rwth."
"Dim ond eich profocio yr oeddwn i wrth ofyn, 'Nhad."
"Ni fydd arnaf ei hangen hi eto, Rwth." Ac aeth ei thad heibio iddi a thrwy'r drws.
Gwrandawodd y fam a'r ferch ar sŵn ei sandalau ar y grisiau ac yna ar y ffordd islaw.
"Y mae rhywbeth ofnadwy wedi digwydd iddo, Rwth," meddai Esther wedi i'r sŵn fynd o'i chlyw.
"Elihu! Elihu!" Brysiodd yr hen gaethwas i fyny'r grisiau ac i ddrws yr ystafell.
"Ie, Meistres?"
"Gwell iti fynd ar ôl dy feistr. Ac yn ddi-oed."
"Af ar unwaith, Meistres."
Cerddodd Joseff a Nicodemus yn araf a thawedog i lawr drwy'r ddinas tua Golgotha. Yn araf, gan wybod na fyddent well o frysio. Tawelodd sŵn y dyrfa erbyn hyn, a gwyddent i'r carcharorion a'r milwyr gyrraedd pen eu taith. Oedasant ar y ffordd, rhag bod yn dystion o'r arteithiau cyntaf.
Aeth y ddau i mewn i'r maes sialcog tu allan i fur y ddinas a gwelent fod y croesau, tair ohonynt, wedi'u codi ar y tipyn craig yn ei ganol. Yr oedd y rhan fwyaf o'r dyrfa wedi gwasgaru erbyn hyn, ond safai tyrrau bychain ar y maes a llu o bobl ar y briffordd gerllaw ac ar furiau'r ddinas. Fel y cerddent ymlaen, sylwodd Joseff ar ganwriad Rhufeinig ar ei farch yn siarad â gŵr ifanc a thair o wragedd. Y Canwriad Longinus, cyfaill Othniel! A'r gŵr ifanc-Ioan! Hyderai na throesai Ioan, fel Pedr, yn fyrbwyll a herfeiddiol a bod Longinus yn gorfod ei rybuddio. Na, aeth Ioan a'r gwragedd tros y marc yn y pridd a cherdded tua'r groes, a dychwelodd Longinus at ei filwyr. Deuai dau o'r milwyr hynny tuag ato a'r hynaf ohonynt â gwisg ar ei fraich. Gwisg y Nasaread? Gwelodd Joseff hwy'n chwarae disiau amdani a chlywodd un ohonynt, a swniai'n bur feddw, yn rhoi bloedd o fuddugoliaeth. Rhyfedd fod y canwriad ifanc, a ymddangosai'n ddyn dwys a meddylgar, yn cael mwynhad mewn gamblo am wisg truan ar groes.
Ond efallai mai ceisio'i chadw o ddwylo'r meddwyn yr oedd. Efallai, yn wir, meddai Joseff wrtho'i hun pan ganfu'r canwriad yn ysgwyd ei ben ac yna'r milwr meddw yn rhoi'r wisg i'r llall.
Ni allai Joseff na Nicodemus glywed pob gair a leferid oddi