canwriad acw a chredaf y bydd yn barod i'n cynorthwyo. Os ceidw ef a'i filwyr y corff yma, fe frysiwn ninnau at y Rhaglaw. Efallai y rhydd inni'r hawl i gladdu'r corff."
Goleuodd llygaid Nicodemus gan eiddgarwch, ond daeth cysgod iddynt drachefn.
"Ond . . . ond ym mh'le y cawn ni fedd, Joseff?"
"Prynais un dro yn ôl. Dacw'r ardd, tu draw i'r olewydden acw. Dychwelaf atoch mewn ennyd."
Syllodd Longinus yn syn ar y Cynghorwr o Arimathea pan welodd ef yn dod tuag ato yn ei wisg dlawd.
"Longinus?"
"Syr! Nid oeddwn i'n eich adnabod chwi—yn y lle yma, ac yn y wisg yna".
"Longinus?" Yr oedd taerineb yn y llais.
"Ie, Syr?"
"A ydyw'r Nasaread wedi marw?"
"Ydyw, Syr."
"A'i gorff ef?"
"Ei gorff, Syr?"
"Ie. Beth yw neges y milwyr 'na?"
"Tynnu'r tair croes i lawr rhag iddynt halogi'r Ŵyl a'r Sabath."
"Ac yna?"
"Ant â'r cyrff i'r tanau sy'n llosgi ysbwriel y ddinas."
"Yr wyf yn mynd yn syth at y Rhaglaw, Longinus. mae gennych awdurdod tros y milwyr hyn?"
"Oes, wrth gwrs."
"Cedwch hwy yma nes imi ddychwelyd, 'wnewch chwi? Ni fyddaf yn hir. Y mae gennyf fedd yn un o'r gerddi 'na wrth droed Bryn Gareb, ac os caf ganiatâd y Rhaglaw, cymeraf gorff y Nasaread a'i roddi ynddo. Cedwch y milwyr yma, erfyniaf arnoch."
"O'r. . . o'r gorau, Syr."
Brysiodd y Cynghorwr yn ôl at Nicodemus a throes y ddau tua'r ddinas. Sylwodd Joseff fod ei hen gaethwas Elihu yn sefyll gerllaw.
"Elihu! Beth wyt ti'n wneud yma?"
"Bûm yma drwy'r amser, Syr. Rhag ofn y byddai angen rhywbeth arnoch."
"Aros yma. Dychwelaf yn fuan a byddwn eisiau dy gymorth. Dewch, Nicodemus, brysiwn."