"I mewn!"
Y clerc a oedd yno, a safai Longinus tu ôl iddo. "Y canwriad, f'Arglwydd."
Daeth Longinus i mewn i'r ystafell a saliwtio. "Y Galilead," meddai Pilat.
"A ydyw wedi marw?"
"Ydyw, f'Arglwydd. Bu farw tua'r nawfed awr."
"Yr wyt ti'n berffaith sicr?"
"Ydwyf, f'Arglwydd. A gyrrodd un o'ch milwyr chwi ei bicell i'w fron ar ôl hynny.'
"Hm. A aethant hwy â'i gorff ymaith?"
"Naddo, f'Arglwydd. Gofala fy ngwŷr i amdano." Troes y Rhaglaw at Joseff.
"Ewch gydag ef, Gynghorwr. A chymerwch y corff i'w gladdu."
"Yr wyf yn dra diolchgar i chwi, f'Arglwydd Raglaw, ac efallai y caniatewch imi.. Aeth llaw Joseff tua'i bwrs. Ysgydwodd Pilat ei ben. "Yr wyf finnau'n ddiolchgar i chwithau, Gynghorwr," meddai.
Wedi iddynt fynd allan i'r heol, gyrrodd Joseff y canwriad o'i flaen i Golgotha a brysiodd yntau tua Heol y Farchnad. Cofiai wrth nesu at y stryd honno fod ynddi siop gwehydd. Ai yno yn gyntaf i brynu amdo o liain gwyn.
Pan aeth i mewn i'r siop, gwelai'r gwehydd yn eistedd yn segur wrth ei wŷdd, gan syllu'n freuddwydiol ar y patrwm o'i flaen. Gerllaw iddo pwysai hen hen ŵr yn ôl ac ymlaen wrth beiriant i gribo gwlân. Nid oedd neb arall yno.
"Y mae arnaf eisiau amdo o liain gwyn. Y gorau sy gennych. A napcyn am y pen."
Nodiodd y gwehydd yn ddwys, ond heb ddywedyd gair, a chododd a cherdded ymaith i mewn i'r tŷ.
"Y tywyllwch 'na, Syr," meddai'r hen ŵr. "Nid wyf fi'n cofio dim byd tebyg iddo. A'r ddaeargryn 'na. Yr oeddwn i'n ofni y syrthiai'r siop 'ma am ein pennau ni. Oeddwn, wir."
Dychwelodd y gwehydd.
"Dyma hwy, Syr. Ni chewch eu gwell yn yr holl ddinas. Nac mewn un ddinas arall, am a wn i."
"Diolch yn fawr i chwi."
Tynnodd Joseff ei bwrs allan, ond ysgydwodd y gwehydd ei ben.
"Yr wyf yn rhoi'r rhain, Syr."