Ni ddeallai Joseff ac edrychodd yn syn ar ei gydymaith. "Croeshoelio? Pwy, Joctan?"
"O, gan na wyddoch chwi ddim, Joseff, gwell imi gau fy ngheg. Neu bai am glebran a gaf fi."
Ymlwybrodd ymlaen eto, gan anadlu'n swnllyd. Am yr ail waith yr un bore, yr oedd terfysg ym meddwl Joseff. Ei fab Beniwda? Croeshoelio? Beth a geisiai'r hen gybydd hwn ei ddweud?
Safodd Joctan eto cyn hir i bwyso ar ei ddwy ffon. Llaciodd linynnau'i wyneb i geisio gwenu'n gyfrwys.
"Na, nid yw Joctan eisiau cael ei alw'n Hen Geg gan neb," meddai. "Ond chwarae â than y mae rhai o'r dynion ifainc 'ma, er hynny. A rhywbeth gwaeth na thân. Y mae'r Rhufeinwyr 'ma'n ddidrugaredd weithiau."
Edrychodd Joseff yn syth o'i flaen, gan geisio ymddangos yn ddidaro, ond teimlai fod llygaid bychain, maleisus yr hen gybydd arno. Dyn yn hoffi clwyfo eraill oedd Joctan a châi bleser yn awr yn chwilio am bryder yn wyneb y Cynghorwr. Dringodd y ddau yn araf eto, ond dyheai Joseff am gael prysuro adref. Ni chofiai fore Sabath fel hwn. Othniel a'i freuddwyd i ddechrau, ac yn awr Beniwda a'i . . . A'i beth? Pa ffolineb a wnâi ef? Yr unig ddehongliad ar eiriau Joctan oedd fod Beniwda'n Genedlaetholwr, yn Selot, yn aelod o Blaid Ryddid, a gwyddai pawb mor llym oedd y Rhufeiniaid ar rai felly. Ac wedi meddwl, pump o wŷr y Blaid oedd y rhai a groeshoeliwyd yn Jerwsalem ar y Pasg bedair blynedd ynghynt. Cofiodd Joseff i'w fab Beniwda droi'n chwyrn yn erbyn popeth estron yn ddiweddar. Pan alwai'r Rhufeinwr Longinus yn y tŷ, ni siaradai air ag ef, a phan ddywedai ei chwaer neu ei fam rywbeth mewn Groeg, â'i yn gaclwm gwyllt. Do, daethai rhyw newid mawr trosto.
A'r fath gythrwfl yn ei feddwl, ni allai Joseff ddioddef ychwaneg o ymlusgo wrth ochr yr hen Joctan.
"Rhaid i chwi faddau imi am eich gadael a brysio o'ch blaen, Joctan," meddai. "Yr wyf newydd gofio bod rhyw gyfeillion yn galw acw."
"O, popeth yn iawn, popeth yn iawn, Joseff. Pwy yw'r hen Joctan dlawd i neb ymboeni ag ef?"
Cafodd Joseff ei fab Beniwda yn eistedd ar glustog wrth ddrws y tŷ.