"Bob tro y daw yma, y mae Othniel am ei gael iddo'i hun." atebodd y ferch yn wyllt.
"Pwy, 'ngeneth i?"
"Longinus. Fe alwodd yma gynnau ar ei ffordd i Jerwsalem. Ond yn lle ei gadw yma nes down i o'r synagog, fe adawodd Othniel iddo fynd i'w daith."
Brysiodd Beniwda yn ei flaen, gan wrthod gwrando ar y sgwrs hon. Nid oedd ar Genedlaetholwr eisiau clywed dim am Rufeinwr, a gwelai fai ar ei dad am adael iddo ddyfod ar gyfyl y tŷ o gwbl.
"Fe wnaeth y canwriad yn gall i fynd yn ei flaen," sylwodd Joseff. "Y mae'n debyg ei fod am gyrraedd Jerwsalem cyn iddi dywyllu."
Taflu'i phen a wnaeth Rwth ac edrych yn gas ar ddrws ystafell Othniel.
Diwrnod o hamdden a thawelwch oedd y Sabath, meddai Joseff wrtho'i hun, o orffwys a myfyrio. Ond y nefoedd fawr, yr oedd hwn yn troi'n helynt ar ôl helynt. Othniel, Beniwda, ac yn awr Rwth. Wel, gan mai i'r cyfeiriad hwnnw y mynnai'r dydd fynd, terfysg amdani, ynteu.
"Gan dy fod ti wedi dechrau sôn am y Canwriad Longinus," meddai, a cheisiai guddio'r cryndod a lithrai i'w lais, "efallai ei bod hi'n bryd i mi ddweud gair ar y pwnc."
Troes Rwth ei phen yn herfeiddiol.
"Hyd y gwelais i," aeth Joseff ymlaen, "y mae'n ddyn ifanc glân a hoffus, ac ymddiriedaf bob amser ym marn Othniel am rywun. Nid oes gennyf wrthwynebiad iddo ddod yma am dro weithiau, ond y mae gweld fy merch yn rhedeg ar ôl Rhufeinwr . . .”
"Pwy sy'n rhedeg ar ei ôl?"
"Na, nid hynny oeddwn i'n feddwl, Rwth, ond. "Pwy sy'n rhedeg ar ei ôl?"
Gwyddai Joseff y dylasai ddewis ei eiriau'n fwy gofalus: yr oedd tymer wyllt ei mam gan Rwth.
"Yr hyn oeddwn i'n feddwl, Rwth, oedd mai Rhufeinwr yw Rhufeinwr. Ein lle ni yw—wel, bod yn gwrtais, wrth gwrs, ond peidio â thalu gormod o sylw iddynt. Y maent yn wahanol iawn i ni, ac er bod dynion da yn eu plith—fel y canwriad hwn, er enghraifft—ni ddylem fod yn gyfeillgar â hwy."