cyfarfod eich merch Rwth yn Jopa. Dyn ifanc golygus, dysgedig, boneddigaidd, un y buasai unrhyw ferch yn syrthio mewn cariad ag ef. Yr oedd yn unig iawn yn Jopa, ac yn falch o gael rhedeg i lawr i Arimathea i gael ymgomio ag Othniel. Wedi iddo gyfarfod Othniel, prin yr edrychai ar Rwth druan.'
"Ond . . .
"Bob tro y dôi i'r tŷ, i ystafell Othniel yr âi yn syth, a dyna drafferth a gâi Rwth i'w dynnu oddi yno!"
"Ond . . . "
"A phan aent am dro, deuent yn ôl cyn pen hanner awr—i ystafell Othniel eto."
"Ond pam y mae'r canwriad yn cyfarfod Rwth yn Jerwsalem heno, ynteu?"
"Rwth sy'n cyfarfod y canwriad, gellwch fentro, Joseff. Ac yntau am beidio â siomi chwaer Othniel."
Tawelwyd meddwl Joseff, ac wedi iddo ystyried ennyd, gwyddai mai'r gwir a ddywedai Esther. Ddoe ddiwethaf, cofiodd, aethai'r canwriad yn ei flaen i Jerwsalem heb aros i Rwth ddychwelyd o'r synagog.
"Efallai eich bod chwi'n iawn, wir, Esther." Yna, fel petai'i feddwl yn mynnu chwilio am bryder, "Ond mi hoffwn i wybod ymh'le y mae Beniwda."
"O, wedi mynd i edrych am rai o'i gyfeillion. Ac efallai iddo fynd gyda hwy i'r theatr. Clywais rywun yn dweud bod cwmni o actorion o Roeg yma yr wythnos hon."
"Nid oedd yn ddigon buan i hynny. Y mae'r perfformiad drosodd ymhell cyn iddi dywyllu."
"Ond gwyddoch am Feniwda. Y mae ganddo gymaint o gyfeillion yma yn Jerwsalem."
"Oes, a chyfeillion peryglus hefyd. Gwŷr Plaid Ryddid, y rhan fwyaf ohonynt."
Aethant ymlaen â'u bwyd yn dawel am dipyn, ac yna troes Esther at ei gŵr.
"Hwn yw'ch cyfle, Joseff."
"Cyfle?"
"Ie. Dywedais neithiwr fod yn hen bryd i chwi fod yn rhywun ar y Sanhedrin. Yr ydych yn aelod o'r Cyngor ers . . . ers deng mlynedd bellach, ond ni chodwch eich llais ynddo. Dim ond i fynd yn groes i bawb arall."