"Y mae'n bryd i chwi ddechrau, ynteu. Ni ddaw neb yn ei flaen heb ysgwyd ei ddyrnau. Fe gymer Annas a Chaiaffas sylw ohonoch chwi wedyn a'ch rhoi ar bob pwyllgor a dirprwyaeth o bwys. Ac wedi i chwi adeiladu'r tŷ yn Jerwsalem, bydd gennych ddigon o amser a chyfle i fod yn rhywun. Pwy a ŵyr, efallai mai chwi fydd yr Archoffeiriad nesaf!"
Nid oedd ar Joseff eisiau bod yn rhywun: yr oedd yn bur hapus, diolch. Ond ni fentrai ddweud hynny wrth Esther. Gwyddai fod llawer o wir yn ei geiriau hi: buasai'n Gynghorwr ers deng mlynedd, ond pur anaml y dodid ef ar unrhyw bwyllgor o bwys.
"O, o'r gorau, Esther. Os gwelaf Gaiaffas yn y Deml yfory, soniaf am y Nasaread hwn wrtho. Ac ysgydwaf fy nyrnau!"
"A rhaid i chwi wneud un peth arall, Joseff."
"O? A beth yw hwnnw?"
"Bod yn llai beirniadol o'r Archoffeiriad. Bob tro y clywaf chwi'n sôn amdano, y mae rhywbeth tebyg iawn i wawd yn eich llais."
"Wel, nid wyf yn hoff o Gaiaffas, y mae'n rhaid imi ddweud."
"Rhaid i chwi gymryd arnoch eich bod, ynteu."
"Os ydych chwi'n meddwl fy mod i'n mynd i lyfu llaw Caiaffas, Esther . . .
"Nid oes angen i chwi wneud hynny, Joseff. Ond ef yw'r Archoffeiriad a dylech ei barchu."
"Pwy a'i gwnaeth yn Archoffeiriad? Yr hen Annas yn gwthio'i fab yng nghyfraith i'r swydd, dyna pwy. A sut? Trwy dywallt arian y Deml i'r coffrau Rhufeinig a gwenieithio i Valerius Gratus, y Rhaglaw, a. . ."
"Joseff?"
"Ie, Esther?"
"Hoffwn i chwi wneud dau addewid imi."
"Gwn beth yw'r cyntaf. Mynd i weld Jafan, yr adeiladydd, ynglŷn â'r tŷ.
"Ie."
"O'r gorau, af i fyny ato cyn diwedd yr wythnos." "Yn bendant?"
"Yn bendant, Esther. A galwaf yn nhŷ'r saer hwnnw yr un pryd. 'Faint o'r llestri pren hynny hoffech chwi?"
"Hanner dwsin. A ydych chwi'n cofio enw'r dyn?"