Safodd ar y llwybr, gan wrando ar sŵn chwerthin merch islaw ar rimyn o dywod. Oni bai mai yn Jopa ac nid yn Rhufain yr oedd, taerai mai llais ei chwaer Tertia a ddeuai o'r gwyll. Cofiodd ei bod hi gydag ef yn yr ardd y bore hwnnw pan lithiwyd ymaith holl lawenydd ei fywyd. A chwerthin yr oedd hi y pryd hwnnw, yn llon ac uchel fel yr eneth hon ar y traeth oddi tano, a'i llais yn ugeiniau o glychau arian. Oedd, yr oedd Tertia gydag ef, ond rhedodd i'r tŷ pan ddaeth Galio i mewn i'r ardd.
Ei frawd oedd Galio, gartref am ysbaid o'r Fyddin.
Aethai i wledd y noson gynt a bu ef a'i gyd-swyddogion yn gloddesta drwy gydol y nos. Yr oedd yn feddw pan ddaeth i mewn i'r ardd, a'i lygaid yn gochion a'i lafar yn floesg.
"Beth yw hwn 'na?" gofynnodd i Longinus, gan nodio'n ysgornllyd tua rhòl a oedd yn ei ddwylo.
"Traethawd enwog ar Wleidyddiaeth. Gan Aristoteles."
"Aris—pwy?"
"Aristoteles."
"O. A phwy yw hwnnw pan fo gartref?"
"Pwy oedd hwnnw, Galio. Groegwr, a fu farw dros dri chant o flynyddoedd yn ôl. Sefydlodd Goleg yn Athen."
"Hm."
Daliodd ei law allan am y rhòl, ac estynnodd Longinus hi iddo. Agorodd hi a darllen:
'Dylai dynion gael ymroddi i fusnes yn ogystal â mynd i ryfel. Ond hamdden a heddwch sydd orau . . . Felly! Felly! Y mae bod yn hen wlanen gartref mewn hamdden a heddwch yn well na bod yn filwr?"
Gwyliai'r caethwas Phidias, a safai gerllaw, y ddau frawd annhebyg hyn, un yn fwli swnllyd a'r llall yn freuddwydiwr tawel.
"Ho'n wir! Hamdden a heddwch, ai e? Y mae'n debyg na wyddai'r hen fenyw o athronydd sut i afael mewn cleddyf heb sôn am ei ddefnyddio!"
Tynnodd Galio'i gleddyf o'r wain a'i chwifio'n beryglus o flaen Longinus, gan chwerthin yn feddw.
"Galio! Rho'r cleddyf yn ei ôl."
"Ho'n wir! Hamdden a heddwch sydd orau? Bod gartref wrth glun fy mam yn lle mynd i weld y byd! Ho, ho, ho!"